Cyfoeth Naturiol Cymru Pecyn cymorth i randdeiliaid

Rhannu'r neges Natur a Ni o fewn eich sefydliadau a'ch rhwydweithiau

Wrth baratoi ar gyfer y sgwrs genedlaethol ac yn ystod y cam cyntaf, fe wnaethom ni ddarparu mynediad i becyn adnoddau rhanddeiliaid i unigolion a sefydliadau, lle’r oedd modd iddynt lawr lwytho a rhannu deunyddiau gyda’u rhwydweithiau eu hunain ac annog mwy o bobl i gymryd rhan.

Erbyn diwedd cam cyntaf y sgwrs genedlaethol, roedd mwy na 350 o bobl o 227 o wahanol sefydliadau wedi ymweld â’r dudalen pecyn adnoddau.

Er bod y sgwrs genedlaethol bellach wedi dod i ben, mae prosiect Natur a Ni yn parhau ac mae nifer o ddeunyddiau perthnasol ar gael o hyd i’w lawr lwytho: 

  • Ffeiliau logo
  • Ffeiliau GIF
  • Adnoddau addysgol
  • Canllaw trafod ‘Dechrau eich sgwrs eich hun’

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ynglŷn â sut y gallai eich sefydliad fod o gymorth yn ystod camau nesaf y prosiect Natur a Ni, anfonwch e-bost at naturani@cyfoethnaturiol.cymru

CLICIWCH YMA I GAEL MYNEDIAD I’R PECYN ADNODDAU