Cynulliad y dinasyddion baner

Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynulliad dinasyddion i adolygu canfyddiadau a gwaith ehangach Natur a'r Ni a chytuno ar y weledigaeth a rennir. 

Fe wnaeth cynulliad y dinasyddion gwblhau eu trafodaethau a chafodd eu hargymhellion eu cofnodi mewn gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol, a gyhoeddwyd yn y Sioe Frenhinol ar 24 Gorffennaf.

Roedd Cynulliad y Dinasyddion yn cynnwys 50 o unigolion o bob cwr o Gymru ac fe wnaeth gyfarfod dros dair sesiwn gan ystyried y cwestiynau canlynol: 

 

Sut olwg sydd ar y dyfodol pan fydd cymdeithas a natur yn ffynnu gyda’i gilydd? 

-       Pa fanteision fyddem ni'n eu gweld pe bai hyn yn digwydd? 

-       Beth sydd angen bod yn wahanol i heddiw? 

-       Pa gamau sydd angen i ni yng Nghymru eu cymryd i gyrraedd dyfodol ffyniannus? 

 

Fe wnaethom weithio gyda grŵp o sefydliadau o bob cwr o Gymru i lunio'r Cynulliad, i gytuno ar ganolbwynt ei waith, ac i sicrhau fod ystod gytbwys o dystiolaeth yn cael ei chyflwyno. Bydd y weledigaeth hon nawr yn llywio sut rydym ni ac eraill yn gweithio gyda'n gilydd, gan ddarparu pwynt i ni i gyd weithio tuag ato, ac ysbrydoli camau gweithredu dros fyd natur ac i bobl nawr ac yn y dyfodol.  

 

Ynglŷn â Chynulliad y Dinasyddion

 

 Sesiwn 1: Blaenoriaethau ar gyfer Ffordd Wyrddach o Fyw 

11 Chwefror 2023 

Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf ar-lein a chanolbwyntiodd ar ddarparu cynllun ar gyfer y cynulliad, gan weithio drwy dystiolaeth gyda chyfranogwyr ynglŷn â pham bod angen ailfeddwl am y ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau. Canolbwyntiodd ar sefyllfa byd natur yng Nghymru gan ei roi yng nghyd-destun heriau byd-eang (gan gynnwys y newid a ddaw yn y dyfodol) a sut mae hynny'n rhyngweithio â heriau presennol. Erbyn diwedd y sesiwn, roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod ganddynt ymdeimlad o'r pryderon mwyaf dybryd sy'n wynebu'r amgylchedd naturiol yng Nghymru, dealltwriaeth o'r systemau sy'n dylanwadu ar hyn, a chawsant amser i fyfyrio ar y goblygiadau o ran sut maen nhw'n dychmygu posibiliadau ar gyfer y dyfodol. Fe wnaethant hefyd glywed beth roedd pobl eraill ledled Cymru yn ei feddwl, o ganfyddiadau Natur a Ni. 

Ymhlith y siaradwyr roedd: 

·      Yr Athro Steve Ormerod, Athro Ecoleg yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd

·      Marie Brousseau-Navarro, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Dros Dro Cymru

·      Sharon Thompson, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth, RSPB Cymru

·      Alex Ioannou, Swyddog Adrodd ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, Cyfoeth Naturiol Cymru

·      Nerys Edmonds, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

                                              

 

                                              

I gael syniad o Sesiwn 1 cynulliad y dinasyddion, cymerwch gip ar y recordiad gweledol

 

Sesiwn 2: Byw gyda natur a llwybrau ymlaen

4/5 Mawrth 2023 

Yn yr ail sesiwn fe wnaeth cyfranogwyr gwrdd yn bersonol yn Abertawe a Wrecsam, i fyfyrio ar sut y gallai fod angen newid cymdeithas i sicrhau bod natur a chymdeithas yn ffynnu gyda'i gilydd. Cafodd y cyfranogwyr eu rhannu rhwng y ddau leoliad i archwilio eu cysylltiad â byd natur, a sut mae hyn yn siapio eu ffordd o feddwl. Gan mai sesiwn wyneb yn wyneb oedd hon, cafodd daearyddiaeth benodol pob lleoliad ei defnyddio i ysgogi myfyrdod. Fe wnaeth y cyfranogwyr ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r effaith y mae bywyd bob dydd yn ei chael ar yr amgylchedd naturiol a sut mae hyn yn ei dro yn effeithio ar bobl, ac fe wnaethant ddechrau meddwl am ddewisiadau amgen. Fe gawsant gipolwg ar sut y mae amrywiaeth o sefydliadau yn gweithio ar hyn o bryd i gefnogi ffyrdd mwy gwyrdd o fyw yng Nghymru, gyda'r bwriad o allu dechrau nodi'r manteision o weithio gyda byd natur a phobl gyda'i gilydd. 

Cafodd Astudiaethau Achos eu darparu gan: 

·      Sefydliad Ellen MacArthur

·      Synnwyr Bwyd Cymru

·      Green Squirrel (Gerddi’r Rheilffordd)

·      Down to Earth

·      Living Streets (Sustrans)

·      Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned

 

I gael syniad o Sesiwn 2 cynulliad y dinasyddion, cymerwch gip ar y recordiadau gweledol:

·       Sesiwn 2a yn Abertawe, 4 Mawrth

·       Sesiwn 2b yn Wrecsam, 5 Mawrth

 

Sesiwn 3: Creu gweledigaeth a rennir 

18 Mawrth 2023

Roedd y drydedd sesiwn ar-lein ac fe symudodd o ddysgu a rhannu, i greu gweledigaeth gyda'n gilydd ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru. Roedd yn ailgyflwyno amrywiaeth o syniadau a chyfraniadau o'r ddwy sesiwn gyntaf (gan ddefnyddio bwrdd Miro a'r artist gweledol a gymerodd nodiadau drwy gydol y ddwy sesiwn gyntaf). Fe wnaeth y cyfranogwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau grŵp i symud tuag at gyd-berchnogaeth o'r weledigaeth oedd yn cael ei chreu, a gwneud argymhellion ynglŷn â sut y gall y weledigaeth gael effaith ac ystyr. 

 

         

 

I gael syniad o Sesiwn 3 cynulliad y dinasyddion, cymerwch gip ar y recordiad gweledol.