Canfyddiadau Cam 1 baner

Cyhoeddwyd Adroddiad Natur a Ni Cam 1 ym mis Gorffennaf 2022.  Mae'n crynhoi canfyddiadau cam cyntaf y sgwrs genedlaethol ar ba fath o ddyfodol yr ydym am ei weld ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.

Cynhaliwyd y sgwrs drwy amrywiaeth o sianeli ymgysylltu ar-lein rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2022. 

Daw’r canfyddiadau ar ôl casglu barn:

•          3,069 o ymatebwyr i’r arolwg

•          68 o gyfranogwyr mewn grwpiau ffocws

•          126 o bobl a fynychodd weithdai a

•          186 o gyfranogwyr mewn gweminarau

 

Prif ganfyddiadau

Tri mater allweddol oedd yn peri’r pryder mwyaf i ymatebwyr yr arolwg:

•          Dirywiad neu ddifodiant anifeiliaid a phlanhigion

•          Y newid yn yr hinsawdd

•          Llygredd mewn afonydd, llynnoedd, a dŵr daear

 

Cynigiodd y cyfranwyr weledigaethau byw a chalonogol ar gyfer y dyfodol, gydag ymatebion cyffredin i'r arolwg yn dod o fewn pum thema:

•          Ffordd wyrddach, hollol wahanol o fyw

•          Cynnydd o ran presenoldeb a hygyrchedd mannau gwyrdd

•          Rheolaeth leol a chymunedol ar adnoddau naturiol

•          Mwy o fesurau i warchod rhywogaethau a bywyd gwyllt

•          Trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol

 

Y prif newidiadau y mae pobl yn barod i'w gwneud i ddiogelu'r amgylchedd yw:

•          Newid 1: annog mwy o fywyd gwyllt mewn gerddi a chymunedau 

•          Newid 2: bwyta cynnyrch lleol pan mae yn ei dymor a 

•          Newid 3: ymrwymo i ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau sydd wedi’u difrodi yn hytrach na’u taflu

 

Er bod mwy na hanner y rhai a gwblhaodd yr arolwg o'r farn eu bod eisoes yn gwneud cymaint â phosibl, mae'r ffactorau sy'n atal pobl rhag gwneud newidiadau yn ymwneud â’r canlynol:

•          costau ychwanegol a fforddiadwyedd

•          diffyg seilwaith a

•          diffyg polisïau a orfodir gan y llywodraeth

 

Camau nesaf

Ein hasesiad yw bod y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd i’r arolwg Natur a Ni yn debygol o fod yn gwybod llawer am y pwnc ac eisoes yn gweithredu ar yr argyfwng natur a hinsawdd.

Cafwyd hefyd rhywfaint o amrywiaeth o ran cyfranogiad o wahanol rannau o Gymru. Gyda hynny mewn golwg, rydym ni bellach yn chwilio am farn y grwpiau a’r ardaloedd hynny o Gymru a gafodd eu tangynrychioli yn ystod cam nesaf Natur a Ni, ac yn gofyn i bobl ystyried cyfres o ddatganiadau’n crynhoi canfyddiadau’r cam cyntaf. A ydyn nhw’n gweld eu hunain yn y dyfodol sy’n cael ei ddisgrifio?

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn mynychu cyfres o ddigwyddiadau mewn ardaloedd lle’r ydym ni’n gweld ein bod wedi derbyn llai o ymatebion yn ystod ein sgwrs genedlaethol. Rydym ni hefyd yn estyn allan yn benodol i grwpiau a gafodd eu tangynrychioli yn ein harolwg, gan gynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl 23 mlwydd oed ac iau.

Os ydych chi’n cynrychioli sefydliad sy’n gweithio gyda phobl sy’n bodloni’r meini prawf hyn, byddem yn hapus iawn i gynnal grŵp ffocws yn ystod mis Awst a mis Medi 2022. Anfonwch e-bost at naturani@cyfoethnaturiol.cymru

Os hoffech gael gwybod am ddatblygiadau Natur a Ni yn y dyfodol, e-bostiwch naturani@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio