Datganiad preifatrwydd a chwcis

Mae Natur a Ni yn ymrwymedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd

Fel y nodwyd, rydym yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i reoli ein gwefan a'n gwasanaethau, ac sydd hefyd yn gwella eich profiad pori. Rhestrir rhagor o wybodaeth am y cwcis hyn isod, ond drwy barhau i ddefnyddio’r wefan y tu hwnt i'r pwynt, rydych yn dangos parodrwydd i dderbyn a defnyddio cwcis gan:

  • Eventscase, ar gyfer cynnal llwyfan ar-lein Natur a Ni, rheoli cofrestriadau gweminar a gweithdai, a chofnodi cynnwys ystafell sgwrsio.
  • Google Analytics, i'n cynorthwyo i wella ac optimeiddio gwefan Natur a Ni.

Os nad ydych yn cydsynio i ddefnyddio'r cwcis hyn, cliciwch yma – bydd hyn yn anffodus yn golygu na fyddwch yn gallu manteisio ar holl nodweddion y wefan hon.

Mae'r polisi hwn yn esbonio pryd a pham y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol am ymwelwyr â gwefan Natur a Ni neu sy'n cymryd rhan yn ein digwyddiadau, sut rydym yn ei defnyddio, yr amodau y gallwn ei datgelu i eraill, a sut y byddwn yn ei diogelu.

Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd, felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo i'r polisi hwn.

Rheolydd data

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r rheolydd data a Freshwater (FW) yw'r prosesydd data ar gyfer gwybodaeth a gyflwynir drwy wefan Natur a Ni, ynghyd ag unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rhannu neu recordiadau sy'n cael eu gwneud yn ystod y rhaglen ddigwyddiadau gysylltiedig. Mae CNC ac FW yn ymrwymedig i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).  Gallwch e-bostio Swyddog Diogelu Data CNC yn dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data y mae modd cysylltu â hi dros yr e-bost yn haydn.evans@freshwater.co.uk​

Gwefan Natur a Ni

Cynhelir gwefan Natur a Ni gan drydydd parti (Eventscase). Rheolir holl gynnwys y wefan ac ymholiadau uniongyrchol drwy'r wefan gan Freshwater.

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi?

Gall yr wybodaeth y mae ei hangen i gofrestru ar gyfer digwyddiad Natur a Ni gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, lleoliad dewisol ac enw'ch sefydliad (os yw'n berthnasol). Byddwn ond yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn cysylltu â chi am y digwyddiad(au) rydych wedi cofrestru ar ei gyfer / eu cyfer neu at ddibenion rheoli agweddau eraill ar y prosiect Natur a Ni (gweler Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?)

Cwcis

Mae gwefan Eventscase yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddienw am ymddygiad ymwelwyr.

Darnau bach o wybodaeth sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur gan wefannau yw cwcis. Fel arfer, defnyddir y rhain gan wefannau i gofio dewisiadau neu i ddarparu hysbysebiadau sydd wedi'u targedu’n fwy ac sy’n fwy perthnasol yn seiliedig ar ymddygiad ar-lein.

Er enghraifft, mae Eventscase yn defnyddio cwcis i olrhain nifer yr ymwelwyr sy'n cofrestru ar gyfer digwyddiadau Natur a Ni – gan ein galluogi i ddarparu profiad gwell ar y wefan. 

Google Analytics

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan Natur a Ni, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am yr ymweliad â'r wefan drwy gwcis. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod patrymau ymddygiad cyffredinol, megis nifer yr ymwelwyr â rhannau gwahanol o'r wefan. Caiff yr wybodaeth hon ond ei phrosesu mewn ffordd sy’n atal pobl rhag cael eu hadnabod yn bersonol. Nid ydym yn ceisio darganfod, nac yn caniatáu i Google geisio darganfod, pwy sydd yn ymweld â'n gwefan.

Dolenni

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a gwefannau ein partneriaid, ac oddi yno. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch y bydd gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau y gellir eu cyrchu trwyddynt eu polisïau preifatrwydd eu hun ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd ar gyfer y polisïau hyn neu ar gyfer unrhyw ddata personol y gallai gael ei gasglu trwy'r gwefannau neu wasanaethau hyn. Gofynnir i chi wirio’r polisïau hyn cyn ychwanegu unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn neu’n defnyddio'r gwasanaethau hyn.

Ffilmio digwyddiadau a chynnwys sgyrsiau

Drwy ddewis cymryd rhan mewn digwyddiad, rydych yn cytuno i'r cynnwys fideo gael ei recordio, ynghyd ag unrhyw wybodaeth sy’n cael ei phostio gan unigolion i swyddogaeth ‘sgwrsio’ y wefan. Caiff y recordiadau hyn eu hadolygu wrth ddadansoddi digwyddiadau Natur a Ni a gallent gael eu defnyddio ar ffurf ddigidol neu argraffedig fel rhan o'r prosiect Natur a Ni yn y dyfodol.

Caiff yr wybodaeth/recordiadau eu trosglwyddo i berchennog y prosiect, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'u defnyddio am bum mlynedd ar y mwyaf. Cânt eu storio'n ddiogel ar weinyddwyr ffeiliau Cyfoeth Naturiol Cymru a byddant ar gael i staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod yr amser hwn.  

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

  • I optimeiddio gwefan Natur a Ni.
  • I fonitro lefelau cofrestru ar gyfer digwyddiadau gwahanol.
  • I fonitro pa sefydliadau sy'n cael mynediad i'r pecyn cymorth gan Natur a Ni i randdeiliaid.
  • I anfon negeseuon atgoffa dros e-bost at bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer digwyddiadau Natur a Ni.
  • Gall cynnwys sydd wedi'i recordio gael ei chwarae i'r cyhoedd a rhanddeiliaid, fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau dilynol.
  • I ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol yr amgylchedd naturiol. Gall hyn gynnwys anfon gwahoddiadau i ddigwyddiadau yn y dyfodol neu ddiweddariadau am ddatblygiadau Natur a Ni atoch.
  • I rannu'r weledigaeth a rennir ar ddiwedd y prosiect.

 

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Mae prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd. Mae'n rhaid i CNC, dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fabwysiadu polisi cynnwys.

Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth?

Freshwater yw'r prif brosesydd data ar gyfer data a gasglwyd drwy wefan Natur a Ni. Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac, o'r herwydd, gallem rannu eich gwybodaeth gyda nhw. Bydd prosesu’r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd partïon. Dyma'r proseswyr trydydd parti yr ydym yn eu defnyddio:

  • Bydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, fel perchennog y prosiect, fynediad i'r holl ddata a gesglir ac a brosesir fel rhan o'r prosiect Natur a Ni.
  • Bydd gan OB3, fel partner ymchwil dewisol y prosiect Natur a Ni, fynediad i'r holl ddata a gesglir er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o ran gwerthuso adborth o'r rhaglen ddigwyddiadau.   OB3 (ob3research.co.uk).
  • Eventscase ar gyfer cynnal platfform ar-lein Natur a Ni, rheoli cofrestriadau ar gyfer gweminarau a gweithdai, a recordio cynnwys ystafelloedd sgwrsio.   Meddalwedd rheoli digwyddiadau gyflawn (eventscase.com)
  • Defnyddir Mandrilla / Mail Chimp fel is-brosesydd gan Eventscase ar gyfer gweinyddu postiadau cyn digwyddiadau ac ar eu holau.  Cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR): Cael cydsyniad GDPR at ddibenion marchnata | Mailchimp
  • Defnyddir Vimeo fel is-brosesydd gan Eventscase er mwyn recordio cynnwys fideo o weminarau Natur a Ni. Polisi Preifatrwydd ar Vimeo
  • Google Analytics er mwyn ein cynorthwyo i wella ac optimeiddio gwefan Natur a Ni.
  • Zoom yw'r platfform fideo-gynadledda dewisol ar gyfer gweithdai a grwpiau ffocws Natur a Ni a chaiff ei ddefnyddio i recordio cynnwys fideos ac ystafelloedd sgwrsio. Preifatrwydd | Zoom

 

Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Ni fyddwn yn cadw eich data am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol at ddibenion cyflawni gweithgareddau Natur a Ni ac am uchafswm o bum mlynedd.

Beth yw eich hawliau unigol? 

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, ac i gywiro, dileu, cyfyngu a chludo eich gwybodaeth bersonol. Os bydd unigolion yn dewis rhyngweithio yn y sesiynau byw, naill ai drwy swyddogaeth fideo neu sgwrsio, yna maent yn rhoi eu caniatâd i'r recordiadau gael eu cadw ar gyfer ein cofnodion at ddibenion cyflawni amcanion y prosiect. Gall unigolion ofyn i'w data gael ei anfon at ddarparwr arall a chaiff unrhyw geisiadau o'r fath eu hystyried pan fo’n bosib er mwyn ynysu eu data personol heb amharu ar hawliau cyfranogwr arall.

Dylai unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data FW: haydn.evans@freshwater.co.uk

Diogelwch eich gwybodaeth

Mae’r holl wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni yn cael ei chadw ar ein gweinyddion diogel.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth trwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data yr ydych yn trosglwyddo i'n safle; bydd unrhyw ddata a anfonwch ar eich risg eich hun. Unwaith yr ydym wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad diawdurdod.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, phan fo’n briodol, byddwn yn eich hysbysu ohonynt trwy e-bost. Gwiriwch yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n polisi preifatrwydd.

Sut i wneud cwyn

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae eich data personol wedi cael ei brosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data FW yn gyntaf, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych chi'n parhau i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF (ico.org.uk)