Mae Natur a Ni yn cynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am yr amgylchedd naturiol. Y nod yw datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer 2050 ac ystyried y newidiadau sydd angen i ni eu gwneud wrth baratoi ar gyfer 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad.
Mae Natur a Ni eisiau annog pobl i feddwl am yr amgylchedd yr hoffen nhw ei weld yn y dyfodol a'i adael ar ôl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydyn ni eisiau gwybod sut mae pobl yn teimlo am natur a sut yr hoffen nhw i berthynas cymdeithas â natur newid. Rydym ni hefyd eisiau i bobl feddwl am y newidiadau y gall pob un ohonom eu mabwysiadu i warchod natur a'r amgylchedd.
Cafodd ei lansio ar 17 Chwefror 2022. Yn y cam cyntaf hyd at fis Mai, gallai pobl ledled Cymru gymryd rhan ar-lein, drwy gwblhau arolwg Natur a Ni, ymuno â gweminarau rhyngweithiol, grwpiau ffocws neu weithdai rhanddeiliaid. Mae’r dudalen Rhannu fy Ngweledigaeth, lle gallwch chi rannu negeseuon, barddoniaeth, delweddau a fideos, yn parhau’n fyw ar y wefan hon.
Mae’r tîm y tu ôl i Natur a Ni wedi adolygu canfyddiadau’r cam cyntaf hwn ac wedi paratoi dau adroddiad sy’n esbonio’r ffordd yr ymgymerwyd â’r prosiect ac sy’n rhoi trosolwg manwl o ganfyddiadau’r sgwrs genedlaethol.
Dysgwch fwy am ganfyddiadau cam cyntaf Natur a Ni.
Nod Cam 2 Natur a Ni oedd mynd i’r afael â’r bylchau yn y cynulleidfaoedd a gymerodd ran yng ngham 1 ac fe’i cynhaliwyd yn ystod haf a hydref 2022.
Dysgwch fwy am ganfyddiadau ail gam Natur a Ni.
Rydym bellach yn gweithio gyda Chynulliad Dinasyddion i ddatblygu'r weledigaeth a rennir ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru o'r canfyddiadau hyn a gwaith ehangach. Mae Cynulliad y Dinasyddion yn cynnwys 50 o unigolion o bob rhan o Gymru a bydd yn cyfarfod dros dair sesiwn yn ystod Chwefror a Mawrth 2023.
Dysgwch fwy am Gynulliad y Dinasyddion.
Os hoffech gael gwybod am ddatblygiadau Natur a Ni yn y dyfodol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi eich manylion ar ein Tudalen Gofrestru.
Os hoffech gael gwybod am ddatblygiadau Natur a Ni yn y dyfodol, e-bostiwch naturani@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hwyluso’r sgwrs genedlaethol. Ni yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol yng Nghymru, o fewn y cyd-destun lleol, cenedlaethol a byd-eang. Rydym eisiau clywed gan bobl Cymru am eu barn ar ddyfodol ein hamgylchedd naturiol, fel y gallwn helpu i ymhelaethu ar eich barn, ac adeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer Cymru.