Rydym wedi symud i safle newydd eleni.

Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!

COP Cymru – llunio ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd

Cyfres o ddigwyddiadau yw COP Cymru sy’n cynnig cyfle i randdeiliaid a phawb yng Nghymru gymryd rhan mewn sgyrsiau pwysig ynglŷn â newid hinsawdd trwy gyfrwng y canlynol: 

  • yn lansiad Cynllun Sero-net Cymru ar 28 Hydref, pennodd y Gweinidogion y cam nesaf (2021-2025) yn ein siwrnai at Gymru sero-net erbyn 2025 
  • yn ystod pedair Sioe Deithiol Ranbarthol a gynhaliwyd ledled Cymru (rhwng 4 a 10 Tachwedd), tynnwyd sylw at enghreifftiau o arferion gorau a rhoddwyd cyfle i’r cyfranogwyr gymryd rhan mewn sgyrsiau pwysig yn ymwneud â themâu allweddol Raglen Lywyddiaeth COP26. Roedd yr holl Sioeau Teithiol Rhanbarthol ar agor i’r cyhoedd ar ffurf rhith-ddigwyddiadau, a gellir eu gweld yn awr trwy edrych ar y dudalen ‘Ar Gais’.
  • Wythnos Hinsawdd Cymru (22-26 Tachwedd) – sef sgwrs genedlaethol 5 diwrnod o hyd ynghylch cynllun Sero-net Cymru a’r angen i weithredu ar y cyd er mwyn sicrhau y bydd Cymru yn cyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ac yn addasu i’r patrymau tywydd newidiol sydd eisoes yn dod i’n rhan.

Caiff holl ddigwyddiadau COP Cymru eu darlledu’n fyw ar y dudalen Cynnwys Byw. Hefyd, gall cynrychiolwyr gael gafael ar y cynnwys ‘ar gais’, ynghyd â chael gwybodaeth am ddigwyddiadau ymylol ac adnoddau eraill, neu gallwch gysylltu â threfnwyr Wythnos Hinsawdd Cymru trwy fynd ar ein tudalen gartref a llywio trwy opsiynau’r ddewislen.