Rydym wedi symud i safle newydd eleni.

Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!

Wedi’i gyflwyno gan Sara Edwards

Mae cysylltiad agos rhwng newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, felly dim ond pan ymdrinnir â’r heriau hyn ar y cyd y gellir gwneud cynnydd.

Roedd y sioe deithiol ranbarthol hon yn trafod y ffordd y gall cadwyni cyflenwi a systemau cynhyrchu yng Nghymru ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon, ac yn amlinellu rhai o'r atebion ar sail natur mwyaf addawol sy'n cael eu gweithredu ledled y wlad - o ailgoedwigo i amaethyddiaeth adfywiol.

Roedd y digwyddiad yn ystyried nod Cymru o geisio dileu gwastraff bwyd a gwastraff gweithgynhyrchu, yn ogystal â rhoi sylw i fater plastigion yn yr amgylchedd. Edrychwyd hefyd ar astudio 'biometreg' a sut y gall hyn ein helpu i ddysgu oddi wrth natur.

Yn olaf, tynnwyd sylw at rai o blith y llu o gynlluniau yng Nghymru sy'n dod â chymunedau ynghyd, â ffocws deuol o ddiogelu'r amgylchedd a gwella canlyniadau iechyd.

Cliciwch yma i weld recordiad o’r digwyddiad