Rydym wedi symud i safle newydd eleni.
Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!
Ymunwch ag Ymgyrch Addewid Hinsawdd Cymru
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae sefydliadau, rhanddeiliaid a phobl o bob cwr o Gymru wedi ymateb i ymgyrch Addewid Cymru. Bydd addewidion sy’n cael eu gwneud drwy’r ymgyrch hwn yn ffurfio’r camau gweithredu pwysig ar gyfer datblygu cynllun Sero Net newydd Cymru a gafodd ei gyhoeddi ar 28 Hydref 2021.
Nod yr ymgyrch yw ysgogi gweithredu yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Nid oes cyfyngiad ar y mathau o addewidion, a gall unigolion, grwpiau neu sefydliadau ar draws yr holl sectorau wneud addewid. Mae angen i addewidion gynnwys brawddeg neu baragraff byr yn nodi’r camau rydych yn addo eu cymryd er mwyn ymuno â’r ymateb cydweithredol i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd.
I ddysgu mwy, cymerwch gip ar y ddogfen Gweithio gyda’n gilydd i Fod yn Sero Net sy’n cynnig arweiniad pellach ar yr ymgyrch Addewid ac yn rhoi enghreifftiau o addewidion.
Felly gwnewch eich addewid a gofynnwch i eraill weithredu a gwneud addewid eu hunain drwy fynd i https://www.smartsurvey.co.uk/s/rx0po/.