Rydym wedi symud i safle newydd eleni.
Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!
Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus yn 2020, mae Wythnos Hinsawdd Cymru’n dychwelyd rhwng 22-26 Tachwedd gyda rhaglen o ddigwyddiadau rhithiol dros 5 diwrnod. Bydd yr wythnos yn dechrau gyda thrafodaeth genedlaethol ar Gynllun Sero Net Cymru a’r camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru’n bodloni ei thargedau. Ar agor i bawb, bydd y sesiynau ar-lein yn helpu pobl i ddeall beth mae Cymru eisoes wedi’i gyflawni, pa newidiadau y gallwn eu disgwyl dros y bum mlynedd nesaf, a sut gallwn lywio’r dyfodol gyda'n gilydd.
Bydd rhaglen bob diwrnod yn ymgymryd â thema wahanol ac yn cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau a dadlau yn cynnwys ystod eang o sefydliadau o bob cwr a chornel o Gymru. Gall mynychwyr gofrestru i wylio unrhyw un neu bob un o’r sesiynau byw, gadael sylwadau a gofyn cwestiynau fel rhan o'r gynulleidfa rithiol.
Bydd cynnwys yr holl sesiynau Wythnos Hinsawdd Cymru ar gael drwy’r dudalen Ar alw.
Mae trosolwg o themâu Wythnos Hinsawdd Cymru i’w weld isod.
Diwrnod 1 (Dydd Llun 22 Tachwedd): Cymru a'r byd
Beth yw cyfraniad Cymru i’r her fyd-eang hon? Yn cynnwys safbwyntiau Gweinidogion y Llywodraeth, gwyddonwyr blaenllaw, partneriaid rhyngwladol a llysgenhadon ieuenctid.
Diwrnod 2 (Dydd Mawrth 23 Tachwedd): Ynni ac allyriadau
Sut ydym yn cael gwared ar garbon o’r system ynni? Lleihau a llyfnhau ein galw am ynni a gwneud mwy o ddefnydd o adnoddau ynni adnewyddadwy Cymru. Archwilio ffyrdd o gynhyrchu ynni a all gadw mwy o'r manteision yn ein cymunedau.
Diwrnod 3 (Dydd Mercher 24 Tachwedd): Ymateb i'r argyfwng hinsawdd
Beth sydd angen bod ar waith i alluogi sero net? Archwilio camau gweithredu a pholisïau o wahanol sectorau o'r economi i alluogi a gwthio'r newid ehangach sydd ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Diwrnod 4 (Dydd Iau 25 Tachwedd): Natur a gwytnwch hinsawdd
Sut ydym yn defnyddio natur i reoli risgiau hinsawdd? Archwilio'r camau mwyaf effeithiol, ar y tir ac yn y môr, i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd - lleihau allyriadau a mynd i'r afael â'r argyfwng natur ar yr un pryd.
Diwrnod 5 (Dydd Gwener 26 Tachwedd): Pobl a gweithredu dros yr hinsawdd
Sut all pawb wneud cyfraniad i Sero Net Cymru? Archwilio'r gwahaniaeth y gall pob un ohonom ei wneud – gartref, yn y gwaith ac yn ein cymunedau – tra'n sicrhau bod costau a manteision sero net yn cael eu rhannu'n deg rhwng pobl a chymunedau.