Rydym wedi symud i safle newydd eleni.

Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!

17 Tachwedd 2021 | 10:30 - 14:15

Cymru Wledig – hinsawdd ardderchog ar gyfer twf gwyrdd

Bydd digwyddiad pwysig, gan gynnwys prif anerchiad gan Weinidog Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar her wledig Cymru yn y ddadl ar newid yn yr hinsawdd, lle'r ydym yn ceisio taflu mwy o oleuni a symbylu hyd yn oed mwy o ymrwymiad i'r her wledig. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle prin i gyfarfod a chlywed gan uwch swyddogion o'n Cymdeithas, yn ogystal â chynrychiolwyr arloesol o wahanol sefydliadau megis Ystâd Rhug, Confor Cymru a CFfI Cymru.  

Aelodau Cliciwch Yma

Members Click Here

18 Tachwedd 2021 | 9:30 - 15:00

Diwrnod Gweithdai Hinsawdd – Ysgolion Uwchradd

Ar 18 Tachwedd, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni drwy’r dydd am gyfres o weithdai rhithiol 40 munud ar Newid yn yr Hinsawdd. Gallwch ddod â’ch dosbarth cyfan i’r gweithdai i ddarganfod mwy am atebion ar sail natur, creu economi gylchol, defnyddio ein lleisiau ar gyfer newid cadarnhaol a mwy. Mae croeso i chi fynychu un neu ddwy sesiwn neu’r diwrnod cyfan a chofrestru gwahanol ddosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn, pa un bynnag sy’n gweddu orau i chi.

Cofrestrwch eich diddordeb

 

22-26 Tachwedd | 09:30 - 15:00

Wythnos Weithdai Hinsawdd – Ysgolion Cynradd

Rydym yn cynnal wythnos o sesiynau llif byw o 22-26 Tachwedd, lle byddwn yn gwahodd eich dosbarth cyfan i ymuno â ni bob bore am 40 munud o hwyl, dysgu a gweithredu. Byddwn yn darparu’r adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu drwy gydol yr wythnos ac annog dysgwyr i wirioneddol ddeall her Newid yn yr Hinsawdd, yr hyn sy’n cael ei wneud i weithredu a sut y gallant chwarae rhan bwysig a theimlo eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth. Cynhelir sesiynau yn Gymraeg a Saesneg.  

Cofrestrwch eich diddordeb

22 Tachwedd 2021 | 13:45 - 14:30

Atal y gylfinir rhag diflannu: cynllun adfer i Gymru

Ymunwch â Gylfinir Cymru/Curlew Wales i lansio Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir, sef y flaenoriaeth bwysicaf yn y DU o ran gwarchod adar. Mae gwaith modelu yn awgrymu y gallai’r Gylfinir ddiflannu o Gymru fel aderyn bridio erbyn 2033. Fodd bynnag, mae yna obaith hyd yn oed yng nghyd-destun yr argyfyngau hinsawdd a natur sy’n wynebu pob un ohonom. Mae partneriaeth gref, yn cynnwys CNC, sefydliadau cadwraeth a rheolwyr tir, wedi dod ynghyd i lunio’r cynllun hwn. Mae’r cynllun nid yn unig yn delio ag adfer gylfinirod ac 87 o rywogaethau cysylltiedig eraill, ond mae hefyd yn ein symud tuag at ddulliau rheoli tirweddau sy’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd – dulliau a fydd o fudd i fusnesau, pobl a natur.

Mae’r siaradwyr allweddol yn cynnwys: Julie James AS (Y Gweinidog Newid Hinsawdd), Mark Isherwood AS (Hyrwyddwr Rhywogaethau ar gyfer y Gylfinir), Clare Pillman (Prif Swyddog Gweithredol CNC) a llawer mwy. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 13.45.

Cliciwch yma

 

23 Tachwedd 2021 | 09:00

Adeiladau clyfar - Ffordd o wireddu uchelgeisiau sero-net

Mae adeiladau clyfar yn cynnig ffyrdd newydd o fodloni disgwyliadau digidol defnyddwyr, gan eu galluogi i reoli’r amgylchedd, yr acwsteg a’r goleuadau, eu galluogi i neilltuo lle, a’u galluogi i reoli nodweddion clyweledol. Maen nhw hefyd yn rhan hollbwysig o’r ras i gyrraedd y targed carbon sero-net wrth weithredu – gan gynnig ffyrdd newydd o ddeall a rheoli’r defnydd a wneir o adeiladau, a chan gynyddu effeithlonrwydd ac osgoi gwastraffu ynni ar systemau gwresogi, goleuadau a systemau aerdymheru.

Yn y digwyddiad rhyngweithiol ‘amser brecwast’ hwn, bydd Alan Jones a Karen Warner, ein harbenigwyr mewn adeiladau clyfar, yn cael cwmni Matthew Jones, Rheolwr Cynaliadwyedd Senedd Cymru; Keith Sims o adran Ystadau a Chyfleusterau Campws Prifysgol Caerdydd; a Huw Llewellyn, Pennaeth Eiddo a Rheolaeth Ariannol yn Grŵp Admiral, i archwilio’r rôl sydd gan adeiladau clyfar o ran gwireddu uchelgeisiau carbon sero-net, a thrafod yr elfennau allweddol y dylid eu hystyried wrth gynllunio, dylunio, adeiladu, gweithredu ac ôl-osod adeiladau clyfar.

Cliciwch Yma

23 Tachwedd 2021 | 14:30 - 15:30

Sefydliad Materion Cymreig (IWA)

Adnewyddu'r Ffocws: Ail-sbarduno Cymru Dwy Flynedd yn ddiweddarach - Holi ac Ymateb

Yn 2019, nododd prosiect Ail-sbarduno Cymru tair blynedd yr IWA gynllun ymarferol i Gymru symud i 100% o ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Ar y pryd teimlwyd bod hyn yn nod rhy uchelgeisiol, ond ers hynny mae ein targed wedi'i fabwysiadu gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

Mae ein hadroddiad newydd, Adnewyddu'r Ffocws: Ail-sbarduno Cymru Dwy Flynedd yn Ddiweddarach, yn asesu cynnydd yn erbyn ein hargymhellion yn 2019. Mae'n ein hatgoffa’n amserol o'r ffordd ymlaen i Gymru, ac yn alwad uchelgeisiol i ymuno â'r mudiad byd-eang ar gyfer datgarboneiddio mewn ffordd a fydd yn datblygu economi ein cenedl yn ogystal â sicrhau dyfodol y ddynoliaeth. Yn y darn hwn o waith sydd wedi’i gyd-awduro gan Hywel Lloyd ac Andy Regan, dadleuwn y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei pholisi ynni ar sbarduno llwyddiant economaidd i sectorau adnewyddadwy allweddol Cymru: y môrbio-ynni a thai.

Yn y digwyddiad hwn, cewch gyfle i glywed gan Hywel Lloyd am yr ymchwil a'r cymhellion a lywiodd yr adroddiad. Yn dilyn hyn, byddwn yn cyflwyno ymateb y Sefydliad Materion Cymreig i Gynllun Sero Net Llywodraeth Cymru. Yn olaf, byddwn yn cynnal sesiwn holi ac achub dan arweiniad Will Henson, Rheolwr Polisi a Materion Allanol yr IWA.

Cliciwch yma

24 Tachwedd 2021 | 13:00 - 17:00

Gwresogi cartrefi: amharu ar gartrefi a chymdogaethau wrth gyflawni sero-net?

Mae’r digwyddiad a gynhelir yn ystod y prynhawn yn cynnig arddangosfa a thrafodaeth ynghylch y newidiadau a’r amhariadau a allai ddod i ran aelwydydd a chymunedau wrth i systemau gwresogi sero-net gael eu cyflwyno.

Yn aml, cyfeirir at ‘sero-net’ fel her dechnegol, ond mae’r technolegau newydd sy’n angenrheidiol i wneud systemau gwresogi yn ddiogel o ran yr hinsawdd yn golygu y gallai adeiladwaith ein cartrefi a’n cymunedau, yn ogystal â’r ffordd y talwn am ynni, orfod newid. Mae’r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd wybodaeth am y newidiadau hyn gyda dyfyniadau a lluniau sydd wedi deillio o waith ymchwil gwyddorau cymdeithasol lle’r aethpwyd ati i archwilio barn dinasyddion ynglŷn â newidiadau mewn systemau gwresogi a systemau ynni. Beth mae gwresogi yn ei olygu yn eich bywyd chi? Sut y dylid talu am systemau gwresogi sero-net? Pa amhariadau y dylai cartrefi a chymunedau eu disgwyl? Pa amhariadau cadarnhaol a allai ddeillio o sero-net? Dewch draw i weld yr arddangosfa ac i siarad â Dr Gareth Thomas a gwyddonwyr cymdeithasol ynni o Brifysgol Caerdydd ynglŷn â’r hyn y gallai sero-net ei olygu i chi, nid yn unig fel defnyddwyr/cwsmeriaid, ond fel teuluoedd a dinasyddion hefyd. Mae gennym rai syniadau, ond hoffem glywed gennych chi hefyd!

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cliciwch yma

 

24-26 Tachwedd 2021 | 9:00-17:00

Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru

Wrth i lywodraethau cenedlaethol drafod ein dyfodol yn COP26, mae'n amser hanfodol i bob un ohonom fynd i'r afael â'r her a gwneud ein rhan. Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal trydedd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru ar 24-26 Tachwedd a gobeithiwn y bydd pawb sydd am greu gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd a ffermio yng Nghymru eisiau ymuno â ni.

Yn ogystal â'n siaradwyr gwadd (Yr Athro Tim Lang, yr Athro Lois Mansfield ac Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd) bydd rhaglen lawn o gyflwyniadau a thrafodaethau yn ymwneud â ffermio, maeth, iechyd y cyhoedd a pholisi. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae trin bwyd fel meddyginiaeth, ymateb i bynciau dadleuol fel unedau dofednod dwys, pam nad yw GM yn wyrdd, a thyfu a marchnata mwy o ffrwythau a chnau yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn ymchwilio i botensial y Strategaeth Bwyd Cymunedol newydd ar gyfer Cymru, yn ystyried modelau cydweithredol ar gyfer cadwyni bwyd ac yn gofyn sut y gallai tynnu mwy o bobl ifanc mewn i ffermio. 

Ochr yn ochr â hyn bydd sesiynau rhwydweithio anffurfiol a dadl gyhoeddus ar ddefnydd tir. Profodd cynhadledd y llynedd pa mor rhyngweithiol y gall digwyddiad ar-lein fod a cynhyrchwyd cyfres o recordiadau y gwnaethom eu darparu am ddim, gan gyrraedd llawer mwy o bobl.

Eleni mae gennym nawdd hael gan Bwyd a Diod Cymru, ac mae ein rhaglen yn dangos sut y gall arfer da ar hyd y gadwyn cyflenwi bwyd helpu i greu cymdeithas deg ac iach. Tocynnau £5-35 + ffi archebu.

Cliciwch yma

26 Tachwedd 2021 | 10:00 - 12:00

BioWILL: Datblygu Bio-burfa 'Sero Net' Integredig

Mae BioWILL yn brosiect ariannu Interreg NWE sy'n canolbwyntio ar "bio-burfa dim gwastraff" integredig sy'n defnyddio pob ffracsiwn o borthiant helyg ar gyfer cynhyrchu bio-gemegion/deunyddiau uchel i ganolig, ynni adnewyddadwy ar ffurf bio-fethan a gwrteithiau naturiol. 

Mae BioWILL yn cynnwys 10 partner prosiect mewn pedair gwlad (Gwlad Belg, Ffrainc, Iwerddon a'r DU). 

Mae Platfform Amgylchedd Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gynnal y weminar addysgiadol hon gan roi cipolwg ar gyflawniadau'r prosiect. 

Bydd y weminar yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau ac yna cwestiynau ac atebion a gynhyrchir gan y gynulleidfa. Bydd y trafodaethau'n cynnwys:

•  Cyflwyniad i'r prosiect BioWILL
•  Bridio helyg
•  Defnydd meddygol – salisin o risgl helyg
•  Defnydd pecynnu – cynhyrchion mwydion wedi'u mowldio o helyg
•  Cynhyrchu ynni gan ddefnyddio treuliad anaerobig 
•  Asesiad Cylch Bywyd o'r broses BioWILL

Cliciwch yma

26 Tachwedd 2021 | 09:00 - 18:30

Yr Argyfwng Hinsawdd ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol – Ymatebion gan Ymchwilwyr yng Nghymru

Bydd systemau ynni, economeg ac ymgysylltiad cymunedol ymhlith y pynciau dan sylw yn ein Cynhadledd Ymchwil ar Ddechrau Gyrfa gyntaf ddydd Gwener 26 Tachwedd.

Byddwn yn dangos gwaith mwy na 20 o Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa (ECRs) yn ystod y digwyddiad, sy’n dilyn uwchgynhadledd hinsawdd COP26, ac sy’n cysylltu ag Wythnos Hinsawdd Cymru rhwng 22-26 Tachwedd.

I weld y rhaglen lawn, Cliciwch yma

Cofrestrwch Yma

Mae ein cyfranwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o brifysgolion ledled Cymru, ac mae eu gwaith yn cwmpasu disgyblaethau sy’n cynnwys STEMM, y dyniaethau, y celfyddydau a gwyddor gymdeithasol.

Bydd chwe sesiwn â thema yn cael eu cynnal:

  • Rhyng-gysylltiad, Cyfraniad a Gwneud Penderfyniad: Dulliau at Weithredu’n Fyd-eang
  • Dysgu o Brofiadau Cymunedau: Rhagweld Posibiliadau’r Dyfodol
  • Iaith a Chyfieithu: Problemau Cynrychiolaeth a Chyfiawnder Cymdeithasol
  • Agweddau Cadarnhaol at Wastraff
  • Economeg er mwyn Newid: Agweddau Newydd tuag at Yr Argyfwng Hinsawdd
  • Systemau Ynni: Dulliau a Thechnolegau Newydd

 

Yna, byddwn yn cau gyda thrafodaeth o amgylch y bwrdd mwy manwl ar y pwnc canlynol:

A fydd technolegau a ddyluniwyd i ddatgarboneiddio cartrefi yn gwaethygu neu leihau anghydraddoldebau cymdeithasol? 

Rydym yn eich annog chi i fynychu’r gynhadledd gyfan os yw hynny’n bosibl, ond mae croeso i gyfranogwyr alw i mewn ac allan o’r sesiynau.