Rydym wedi symud i safle newydd eleni.

Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!

Bydd pedwar digwyddiad Sioe Deithiol Ranbarthol COP26 yn cael eu cynnal yng Nghymru i gyd-fynd â dyddiadau’r Rhaglen Gynhadledd Llywyddiaeth yn Glasgow, ac i adlewyrchu’i themâu.

  • Trawsnewid Ynni (4 Tachwedd) – wedi’i gynnal yng ngogledd Cymru
  • Datrysiadau Seiliedig ar Natur (6 Tachwedd) – wedi’i gynnal yng nghanolbarth Cymru
  • Addasu a Gwytnwch (8 Tachwedd) – wedi’i gynnal yn ne-orllewin Cymru
  • Trafnidiaeth Lân (10 Tachwedd) – wedi’i gynnal yn ne-ddwyrain Cymru


Bydd cynnwys y pedwar digwyddiad sioe deithiol yn cael ei lywio gan bobl o ledled Cymru, yn pwysleisio enghreifftiau perthnasol o arfer gorau a sicrhau bod cyfranogwyr yn ymgysylltu mewn trafodaethau pwysig ynghylch themâu allweddol COP. 

Bydd rhaglen fanwl ar gyfer pob diwrnod yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon.

Fel gyda lansiad Cynllun Sero Net Cymru, bydd digwyddiadau sioeau teithiol COP26 yn cael eu darlledu’n fyw i gynulleidfa gyhoeddus ac ar gael fel cynnwys fideo ar alw.

  • Gallwch wylio’r ffrwd fyw drwy’r dudalen Cynnwys Byw 
  • Bydd recordiad ar gael yn adran Ar alw'r safle’n fuan ar ôl i bob digwyddiad ddod i ben.