Rydym wedi symud i safle newydd eleni.

Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!

Nov

22

Nov

23

Nov

24

Nov

25

Nov

26

Diwrnod 1 - Cymru a'r byd

Diwrnod 1 - Cymru a'r byd
Croeso: Wythnos Hinsawdd Cymru 2021
09:00  to  10:00

Mae her newid yn yr hinsawdd yn gofyn i bawb weithredu – nid oes rhagor o amser i’w wastraffu. Ein cyfrifoldeb ni, fel cenedl, yw uno ynghyd i ddiogelu ein planed a'n pobl drwy weithio tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer ein plant, a phlant ein plant. Bydd y sesiwn agoriadol hon yn gosod y cyd-destun ar gyfer trafodaeth Wythnos Hinsawdd Cymru dros bum diwrnod, yn canolbwyntio ar y camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen er mwyn cyflawni ein cynllun Sero Net newydd, manteisio arno fel canllaw i weithio ar y cyd dros y pum mlynedd nesaf ar y llwybr i gyrraedd allyriadau sero net a chanlyniadau gwell ar gyfer pobl Cymru.

Speakers:
Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS. Prif Weinidog Cymru.
Julie James AS. Y Gweinidog Newid Hinsawdd. Llywodraeth Cymru.
Rt. Hon John Gummer Lord Deben.
Sophie Howe. Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Clare Pillman. Prif Weithredwr. Cyfoeth Naturiol Cymru.
Diwrnod 1 - Cymru a'r byd
Trawsnewid teg: sicrhau bod ein gwaith yn addas i’r dyfodol (dan ofal TUC Cymru)
11:00  to  12:30

Mae angen i bob diwydiant a phob gweithle fod â chynllun ar gyfer dyfodol sero net. Gweithleoedd carbon uchel sydd ar reng flaen y trawsnewid hwn, ond mae angen i bob gweithle weithredu.

Gall gweithredu’n gywir dros yr hinsawdd arwain at drawsnewid a chryfhau ein diwydiannau, creu swyddi da, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Ond os na fyddwn yn gweithredu’n gywir, mae perygl i swyddi gael eu colli, i allyriadau fod ar y môr ac i gymunedau ddiflannu. Dyna pam mae undebau wedi galw am ‘drawsnewid teg’ i sero net.

 Mae ‘trawsnewid teg’ yn golygu bod gan weithwyr lais canolog wrth gynllunio’r trawsnewid, fel ei fod yn cael ei wneud ‘gyda’ nhw yn hytrach nag ‘iddyn’ nhw. Mae’n golygu na fydd gweithwyr na chymunedau’n cael eu hanghofio. A bydd swyddi newydd yn cael eu creu, sydd cystal ag unrhyw swyddi a fydd yn cael eu colli o ran tâl, sgiliau, pensiynau, cydraddoldeb, iechyd a diogelwch a chydnabyddiaeth undeb llafur (os nad gwell). 

Speakers:
Shavanah Taj. Ysgrifennydd Cyffredinol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME). TUC.
Meesha Nehru. Ymchwilydd. Labour Research Department.
Eleri Williams. Dadansoddwr Newid. Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Mary Williams. Pennaeth Gwleidyddol a Pholisi. Unite the Union.
Diwrnod 1 - Cymru a'r byd
Cymru - partner rhyngwladol mewn argyfwng byd-eang
12:45  to  13:45

Bydd y panel trafodaeth yma’n arddangos sut mae aelodau o’r Under2Coalition yn cydweithio i gadw cynhesu o fewn 1.5ºC. Bydd yn amlygu’r uchelgais a’r prif gamau gweithredu a gymerir gan wladwriaethau a rhanbarthau i ddelio gyda’r argyfwng hinsawdd. Y rhwydwaith hwn nawr yw’r rhwydwaith byd-eang mwyaf o wladwriaethau a rhanbarthau sydd wedi ymrwymo i ostwng allyriadau sy’n cynrychioli 50% o’r economi fyd-eang.

Mae’n hanfodol cael cydweithrediad rhwng gwladwriaethau a rhanbarthau er mwyn gosod a chyrraedd y targedau byd-eang. Mae dwyn ynghyd y gwladwriaethau a’r rhanbarthau yn hanfodol er mwyn gallu rhannu profiadau a dysgu gan y naill a’r llall i gyrraedd y nodau hinsawdd os ydym am gyrraedd ein targedau. Yn y digwyddiad hwn, bydd llywodraethau rhanbarthol yn rhoi eu barn ar hyd ystod o sectorau ynghylch y llwyddiannau allweddol hyd yma, i ba gyfeiriad mae angen symud ymlaen ac yn adlewyrchu ar rai o’r meysydd arloesol newydd sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â’r heriau a wynebir a sut y mae hyn yn plethu i mewn i uchelgeisiau’r Under2Coalition.

Speakers:
Michael Matheson. Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero-net. Ynni a Thrafnidiaeth, Yr Alban.
Julie James AS. Y Gweinidog Newid Hinsawdd. Llywodraeth Cymru.
Tim Ash Vie. Cyfarwyddwr. Ysgrifenyddiaeth y Glymblaid Under2, Y Grŵp Hinsawdd.
Oswaldo Lucon.
Ms Arantxa Tapia. Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, Cynaliadwyedd ac Amgylchedd Gwlad y Basg. Llywodraeth Gwlad y Basg.
Diwrnod 1 - Cymru a'r byd
Ieuenctid Cymru - eu safbwynt ar yr argyfwng hinsawdd
15:00  to  16:30

Myfyrio ar COP a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd yng Nghymru - o safbwynt ieuenctid 

Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i bobl ifanc yng Nghymru fyfyrio ar eu profiadau o COP, mynegi barn ar weithredu ar yr hinsawdd ac edrych tua’r dyfodol ar flaenoriaethau gweithredu ar yr hinsawdd. Byddant yn nodi eu cwestiynau allweddol ac yn amlinellu beth yr hoffen nhw ei weld yn cael ei flaenoriaethu yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i gefnogi’r gweithredu brys sydd ei angen yn ystod y ‘degawd cyflawni’ hwn.  

Speakers:
Emily-Rose Jenkins. Alumni Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
Joshua Beynon. Alumni Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
Poppy Stowell-Evans. Chair. Youth Climate Ambassadors for Wales.
Shenona Mitra. Vice-Is-gadeirydd a Swyddog Cyfathrebu and Communications Officer. Llysgennad yr Hinsawdd Ieuenctid Cymru.
Barbara Davies Quy. Dirprwy Gyfarwyddwr. Maint Cymru.
Rosalind Skillen. Gohebydd Hinsawdd Ifanc y BBC. BBC.