Rydym wedi symud i safle newydd eleni.

Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!

Wedi’i gyflwyno gan Sara Edwards

Mae datrysiadau ymarferol yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r difrod a'r golled a achosir gan newid hinsawdd. Roedd y sioe deithiol ranbarthol hon yn archwilio'n ddofn i'r ffordd orau o gynnal diwydiannau cyfredol gan adeiladu amaethyddiaeth a seilwaith gwydn, diogelu ac adfywio cynefinoedd a chefnogi’r rhai sydd fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd.

Roedd y siaradwyr yn trafod anghenion hyfforddiant a datblygiad y dyfodol, pwysigrwydd ymchwil o'r radd flaenaf a’r rôl hanfodol y bydd hydrogen yn ei chwarae wrth ddatgarboneiddio. Roedd y rhaglen hefyd yn ystyried y newid hinsawdd a’i effeithiau ar ddiogelwch bwyd ac amaethyddiaeth ar raddfa ranbarthol yn ogystal â chenedlaethol ac yn cynnwys astudiaethau achos a oedd yn arddangos rôl hanfodol sefydliadau, llywodraethu, polisïau a chyllid. 


Roedd y sesiwn olaf yn ystyried sut ellir lliniaru effeithiau llifogydd a newidiadau arfordirol ac yn pwysleisio astudiaethau achos prosiectau sy'n dangos sut ydym eisoes yn addasu i newid, gan gynnwys cynllun Addasu Arfordir Niwgwl a Pholisi Glannau Ansefydlog Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cliciwch yma i weld recordiad o’r digwyddiad