Rydym wedi symud i safle newydd eleni.

Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!

Beth yw Cynllun Sero Net Cymru?

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod gofyniad ar Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru i fod yn sero net erbyn y flwyddyn 2050, gyda system o ‘gyllidebau carbon’ a thargedau allyriadau yn y cyfamser. Mae angen i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn nodi eu polisïau a chynigion ar gyfer bodloni’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.


Mae Cynllun Sero Net newydd Cymru yn cyflawni’r ddyletswydd hon ar gyfer Cyllideb Garbon 2 (2021-25) ac yn ymateb i’r cyngor diweddaraf gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Ym mis Rhagfyr 2020, llwyddodd y Pwyllgor, am y tro cyntaf, i nodi llwybr credadwy a fforddiadwy i Gymru gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050, gan wneud ein cyfraniad i Gytundeb Paris y Cenhedloedd Unedig. Yn ogystal â llunio ein llwybr ar ddod yn sero net, mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar greu Cymru wyrddach, gryfach a thecach.

 

Ynglŷn â'r digwyddiad lansio

Cafodd Cynllun Sero Net newydd Cymru’n ei lansio ar 28 Hydref mewn digwyddiad yn yr adeilad Arddangoswr Ynni Gwres Solar ger Port Talbot, gyda siaradwyr a’r wasg yn mynychu’n bersonol, a’r digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw i gynulleidfa gyhoeddus.


Wedi’i gynnal gan y cyflwynydd ITV Cymru, Ruth Dodsworth, roedd y lansiad yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, AS; Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd Julie James AS; Yr Athro Dave Worsley, Is-lywydd (Arloesedd) Prifysgol Abertawe; a Llysgennad yr Hinsawdd Ieuenctid Cymru, Poppy Stowell-Evans.


Cyflwynodd Weinidogion ein cynllun gweithredu dros bum mlynedd, ac egluro’i rôl wrth lywio cam nesaf ein llwybr ar ddod yn sero net erbyn 2050 a phwysleisio’r pwysigrwydd gydweithio i helpu i gyflawni ein degawd o weithredu dros yr hinsawdd.


Atebodd y panel gwestiynau am Gynllun Sero Net Cymru gan newyddiadurwyr a rhannodd ‘panel rhithiol’ o randdeiliaid y camau gweithredu maent yn eu cymryd gyda’u sefydliadau. Roedd yn gyfle i fusnesau, gweithwyr, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a chymunedau ddysgu mwy am y newidiadau sydd angen i ni gyd eu gwneud os ydym eisiau bodloni ein nodau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, yn ogystal â’r cyfleoedd a’r risgiau mae’r newidiadau’n eu cyflwyno.


Amlinellodd Weinidogion hefyd y negeseuon y gwnaethant eu cyflwyno yn COP26, am bwysigrwydd y degawd nesaf, yr angen i ddysgu o arfer gorau rhyngwladol a manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r gwaith adfer ar ôl pandemig Covid i chwilio am ddatrysiadau arloesol sy’n cynnig buddion ehangach, wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd.


Mae’r ffrwd fyw bellach wedi gorffen, ond gallwch weld cynnwys fideo o hyd drwy’r adran Ar-alw ar y safle hwn. Daeth y digwyddiad i ben gyda thaith o rai o arddangosfeydd yr Adeilad Arddangoswr Ynni Gwres Solar, sy’n rhan o brosiect SPECIFIC Prifysgol Abertawe. 


Mae SPECIFIC yn ganolfan arloesedd a gwybodaeth yn y DU, sy’n cynnal ymchwil ar sut all ‘adeiladau actif’ gynhyrchu, storio a rhyddhau gwres a thrydan eu hunain o ynni solar.