Rydym wedi symud i safle newydd eleni.

Ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, cliciwch yma!

Mae Bwletin Dyddiol Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei gynhyrchu gan dîm o fyfyrwyr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd. Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan Fwletin Trafodaethau’r Ddaear, ac rydym yn gweithio ag Arweinydd Tîm COP 26 ENB, Dr. Jen Allan, i gyflwyno cofnod dyddiol o brif bwyntiau digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru. Gyda’i gilydd, bydd yr adroddiadau dyddiol hyn yn helpu i arddangos yr ystod o gamau gweithredu dros yr hinsawdd sy’n cael eu cymryd ledled Cymru, a chyfleoedd i wneud mwy.

Dyma’r myfyrwyr sydd ynghlwm â’r prosiect hwn:

  • Elizabeth Brittan
  • Carys Cox
  • Ellie Cooper
  • Phoebe Elkington
  • Sinead Gallagher
  • Jia Chyang Ho
  • Alex Kirilov
  • Melissa James
  • Ruhaab Khalid
  • Ellie McAdam
  • Dylan McCandless
  • Rachel Nazareth
  • Daniel Philitoga
  • Lauren Roseblade
  • Malgorzata Rudnicka

Ehangwch y gwymplen isod i weld y bwletinau o wahanol ddiwrnodau:

BWLETIN DYDDIOL WYTHNOS HINSAWDD CYMRU – DIWRNOD 1 (22 Tachwedd 2021) - Cymru a'r byd

Croeso i Wythnos Hinsawdd Cymru

Roedd y sesiwn hon yn myfyrio ar gyfarfod diweddar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yn Glasgow, ac yn amlinellu ymdrech gydweithredol y genedl i fodloni cynllun Sero Net Cymru.

Croesawodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y cyfranogwyr i Wythnos Hinsawdd Cymru 2021. Gan fyfyrio ar Gynhadledd Newid Hinsawdd Glasgow, pwysleisiodd nad yw maint Cymru yn rhwystr i'r effaith weddol fawr a gafodd hi yn Glasgow a chrybwyllodd Cymru yn ymuno â'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy gyda gwledydd megis Denmarc a Seland Newydd. Dywedodd Drakeford ei fod yn edrych ymlaen at barhau â safiad cryf Cymru o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan ddweud bod COP Cymru 2021 yn rhan o'r ymdrech honno, sy'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn arwain yn ogystal â chydweithio fel cenedl "law yn llaw â'n cyd-ddinasyddion." (cyfieithiad) Er mwyn lleihau'r allyriadau gyda'n gilydd, aeth Drakeford ati i drafod cynlluniau i "weithio gyda'n gilydd i gyflawni sero net."

Dangosodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd, ymdrechion Cymru fel arweinydd rhyngwladol o ran ymdrin â newid hinsawdd. Pwysleisiodd Gymru fel sylfaenydd dan Glymblaid Under2 yn 2015, sy'n cynnwys 260 o lywodraethau a dywedodd fod Cymru bellach yn ailffocysu ymdrechion i gyflawni sero net, sy'n cynnwys 123 o gynigion llywodraethol megis adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel. Adnabu James yr angen am "drawsnewid cyfiawn" i leddfu newid hinsawdd a datblygu gwytnwch hinsawdd sy'n gymdeithasol gyfiawn, gan ddatgan na ddylai'r baich o drosglwyddo ddisgyn ar ysgwyddau y rheiny sydd â'r lleiaf o allu i'w ddioddef.  

Cymeradwyodd John Gummer Arglwydd Deben, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y cysylltiadau cryf rhwng llywodraethau lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Trodd at yr effaith unigol, gan ddweud "nid ydych yn newid y byd oni bai eich bod yn newid chi eich hun," ac eirioli dros newidiadau ar yr aelwyd. Dadleuodd Deben fod hon yn broblem fyd-eang sydd angen datrysiad byd-eang a "chalon y frwydr yw cyfiawnder." Dywedodd ei bod yn "anfoesol" i lywodraeth y DU leihau cyllid tramor ar gyfer gwledydd sy'n datblygu, yn enwedig gan fod gwledydd sydd wedi datblygu, fel y DU, wedi effeithio ar newid hinsawdd yn uniongyrchol ac yn anghymesur. 

Dadleuodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, y dylai Cymru fod yn annog newidiadau sy'n ceisio datrys gwreiddiau'r broblem. Pwysleisiodd fwriad Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i benodi cennad arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan dynnu ar ymdrechion a ddechreuodd yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Er y dylanwad rhyngwladol hwn, galwodd Howe ar Gymru i wneud mwy. Yn 2019, datganodd Gymru argyfwng hinsawdd, ond nododd Howe nad oedd yr un Contract Gwerthwch i Gymru yn cynnwys lleihau allyriadau, a hynny allan o 363 o gontractau.

Amlinellodd Clare Pillman, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, bwysigrwydd newid naratif arweinwyr, gan ddweud "mae'r argyfwng hwn yn gofyn i ni feddwl yn wahanol." Pwysleisiodd nad un arweinydd fesul sefydliad sydd â'r syniadau i gyd, a galwodd am gynnwys gweithwyr oherwydd dyna lle mae'r "egni" a gall yr agwedd fagu "dull mwy democratig o arwain." Dywedodd fod wynebu newid hinsawdd yn debyg i daith a fydd yn gofyn i ni ddysgu gyda phob cam a chydweithio gyda phob math o sefydliadau.

Trawsnewid Cyfiawn: Sicrhau Dyfodol ein Gwaith 
Cynhaliwyd gan TUC Cymru

Yn y sesiwn hon, daeth cynrychiolwyr o undebau llafur a diwydiant yng Nghymru ynghyd i drafod rôl gweithwyr, undebau, a chymunedau yn y trawsnewid i allyriadau carbon sero net erbyn 2050.

Dechreuodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, TUC Cymru, drwy drafod y term cyffredin "trawsnewid cyfiawn," gan nodi bod angen cynnwys gweithwyr a chymunedau, a chanolbwyntio arnynt, gan fagu dull rhyngblethol cryf. Mynegodd ei siom fod llywodraeth y DU wedi defnyddio'r dywediad mewn cynlluniau nad oedd yn cynnwys digon o atebolrwydd a buddsoddiad mewn cymorth ariannol ac ailhyfforddi. Wedi dweud hynny, daeth i gasgliad ar nodyn gobeithiol a hynny oherwydd y lefel uchel o gyfranogiad, ymhlith pobl ifanc yn enwedig, yn y gynhadledd newid hinsawdd yn Glasgow.

Trafododd Meesha Nehru, Adran Ymchwilio i Faterion Llafur, yr adroddiad diweddar "Negotiating Net Zero" sy'n rhoi enghreifftiau o ymyriadau llwyddiannus yn y DU a thramor. Cymeradwyodd Plan de Cabon Sbaen am ddarparu cymorth i ddiwydiannau gwyrdd newydd ac am ailhyfforddi a chynnig cymorth i'r rhai a oedd wedi colli eu swyddi yn y diwydiannau traddodiadol, megis mwyngloddio. Pwysleisiodd bartneriaeth Bristol Green Capital am ei chydweithrediad rhwng busnesau, buddsoddwyr, a'r llywodraeth leol i sicrhau bod buddsoddiadau amgylcheddol yn adlewyrchu buddion cymunedol. Yn olaf, crybwyllodd lwyddiant cytundebau Cydnabyddiaeth Amgylcheddol, ond awgrymodd y dylid hybu cydweithio rhwng corfforaethau undeb a chynllunio trawsnewid.

Canolbwyntiodd Jacqueline Thomas, arbenigwr gwaith dur, ar yr angen i gadw diwydiant o fewn Cymru yn hytrach na rhyddhau allyriadau drwy fewnforio yr un adnoddau o wledydd tramor. Rhoddodd Thomas sylw i bwysigrwydd diwydiannau, megis dur, fel ffynonellau swyddi o safon i gymunedau, gan gofio ei phrofiad â'r dinistr a ddaeth law yn llaw â chau pyllau yn y 1980au. Nododd y camau mae diwydiant dur Cymru yn eu cymryd, gan gynnwys gweithdrefnau effeithiolrwydd ynni mewnol a thâl ychwanegol CO2, gan annog mwy o arferion cynaliadwyedd yn y gweithle.

Agorodd Eleri Williams, Dadansoddwr Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru gyda'i hadroddiad "Anghydraddoldeb yng Nghymru'r Dyfodol" sy'n pwysleisio pwysigrwydd gosod cynlluniau'r llywodraeth yng nghyd-destun realistig dyfodol Cymru. Ail-adroddodd yr angen am raglenni ailhyfforddi hygyrch, gan gynnwys oriau hyblyg ac amrywiaeth o gyrsiau. Yn ogystal â'r angen am fwy o fuddsoddiad mewn sectorau megis gofalu, pwysleisiodd yr angen i wrthsefyll y broblem sydd ynghlwm â phoblogaeth sy'n heneiddio a chynnig cyfleoedd wedi'u targedu at ddemograffig mwy amrywiol a benywaidd.

Dadansoddodd Mary Williams, Pennaeth Gwleidyddiaeth a Pholisi, Unite the Union, dri diwydiant o bwys arbennig i economi Cymru. Dechreuodd arni gyda'r diwydiant Awyrofod, gan awgrymu y dylai'r llywodraeth fuddsoddi mewn prosiectau gwyrdd yn y diwydiant, yn hytrach na thrawsnewid oddi wrth hynny. Trafododd ynni ac effeithiau "colli swyddi oherwydd dros yr amgylchedd" heb gymorth ariannol na hyfforddiant mewn swyddi cyffelyb. Yn olaf, pwysleisiodd y diwydiant amaeth a'i angen taer am fuddsoddiad i wrthsefyll ei weithlu sy'n heneiddio a denu'r rhai sy'n awyddus i drawsnewid y sector yn gynaliadwy.

Yn gyffredinol, roedd gan y panel gonsensws clir mewn perthynas â'r angen i ailhyfforddi a thrawsnewid diwydiannau mewn modd sy'n rhoi'r gweithwyr a'r cymunedau wrth wraidd y newid gyda ffocws ar rhyngblethedd a hygyrchedd.

Cymru - partner rhyngwladol mewn argyfwng byd-eang

Dan sylw yn y sesiwn hon oedd y ffyrdd mae aelodau dan y Glymblaid Under2 yn gweithio i leihau allyriadau a chadw'r cynhesu o fewn 1.5 ºC. 

Croesawodd Tim Ash Vi, Cyfarwyddwr Clymblaid Under2, bawb ac amlinellodd y ffocws ar gydweithio rhyngwladol. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o ddwyn llywodraethau ynghyd wrth iddynt geisio goresgyn newid hinsawdd.

Aeth Michael Matheson, Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero Net, Ynni a Thrafnidiaeth yr Alban, ati i danlinellu cydlynu a chydweithio, gan ddweud bod y Glymblaid Under2 yn creu rhwydwaith sy'n galluogi llywodraethau i gydweithio'n effeithiol er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd. Pwysleisiodd fod gan wledydd llai o ran maint lai o allu i wynebu newid hinsawdd ar eu pen eu hunain, ac felly mae angen gweithio ar y cyd er mwyn bod yn fwy effeithiol. Gan edrych tua'r dyfodol, awgrymodd Matheson y dylid gwella'r gefnogaeth ymysg gwledydd, er mwyn cyflawni cydlyniad parhaus a rheolaidd. Dywedodd fod llywodraethau is-genedlaethol yn chwarae rôl gynyddol bwysig, wrth i ni ymgymryd â "chyfnod cyflawni" gweithredu dros yr hinsawdd.

Trafododd Arantxa Tapia, Gweinidog Datblygiad Economaidd, Cynaliadwyedd ac Amgylchedd Gwlad y Basg, ffyrdd mae'r llywodraeth yno yn cefnogi trawsnewid i sero net. Dywedodd fod Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow yn dangos bod angen eto i gyflymu ym meysydd megis cyllid hinsawdd. Disgrifiodd Tapia y modd mae Gwlad y Basg yn anelu at roi sylw i'r hinsawdd wrth ystyried pob agwedd ar bolisïau. Ymhellach i hynny, pwysleisiodd bwysigrwydd gweithio gyda llywodraethau lleol, ar y cyd â gwyddonwyr a dinasyddion, i gyflawni strategaethau. 

Disgrifiodd Oswaldo Lucon, Cynghorydd Arbennig, Llywodraeth Sao Paulo, y buddion dan y Glymblaid Under2, gan bwysleisio sut mae'r rhwydwaith yn adnabod gwendidau mewn strategaethau cyfredol a'r gallu i fodelu rhai mwy effeithiol. Disgrifiodd ei uchelgeisiau o ran cysylltiadau yn mynd y tu hwnt i Sao Paulo a Brasil, i gynnwys eraill yn y De Datblygedig. Gyda'r holl anawsterau sydd o'n blaen mewn perthynas â newid hinsawdd, pwysleisiodd fod rhwydweithiau yn hanfodol er mwyn aros ar y trywydd cywir.

Adlewyrchodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd, ar ei theimladau o optimistiaeth a dicter yng nghyfarfod Glasgow. Pwysleisiodd pa mor fuddiol oedd cysylltu â chydweithwyr dan Glymblaid Under2 a thrafod y problemau a'r strategaethau sy'n gyffredin rhyngddynt. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd gweithredoedd unigolion a sut allant wneud gwahaniaeth. Canmolodd James y modd yr aeth Cymru ati i ddylanwadu ar y llwyfan fyd-eang, er mai gwlad fechan ydyw. Yn yr un modd, amlygodd y lefel o ddylanwad sydd gan y Glymblaid Under2.

Ar ddiwedd y sesiwn, mynegodd Matheson "optimistiaeth ofalus" mewn perthynas â chyfarfod Glasgow. Nododd y bydd Cynhadledd Newid Hinsawdd nesaf y Cenhedloedd Unedig yn brawf go iawn o ba mor bell mae llywodraethau yn fodlon mynd gyda pholisïau'r hinsawdd. Er yr amlygodd optimistiaeth ar ôl Glasgow, barn Tapia yw bod angen gweithredu.

Ieuenctid Cymru - eu safbwynt ar yr argyfwng hinsawdd

Yn y sesiwn hon, myfyriodd bobl ifanc ar Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yn Glasgow, a thrafod ei effaith. Gan ymateb i drafodaethau a gafwyd yn y gynhadledd, gwnaethant hefyd bwysleisio rhai blaenoriaethau y dylai'r llywodraeth eu hystyried er mwyn gweithredu'n briodol dros yr hinsawdd. 
 
Dywedodd Emily Rose Jenkins, cyn-fyfyriwr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, fod bygythiad newid hinsawdd yn ei hardal leol wedi'i chymell i godi ei llais ynghylch newid hinsawdd. Cydnabu addysg yn adnodd pwysig i annog a grymuso pobl ifanc i ddefnyddio eu llais a bod digwyddiadau fel Diwrnod Ieuenctid yn helpu i gynnwys mwy o blant ysgol. Pwysleisiodd fod angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach â'r gymuned i'w gwneud hi'n eglur sut beth allai dyfodol yr hinsawdd fod heb addasu a datblygu gwytnwch.
 
Rhannodd Joshua Beynon, cyn-fyfyriwr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, ei fod ef wedi'i gymell i weithredu yn erbyn yr hinsawdd wrth ymateb i'r risg uwch o lifogydd yn ei ardal leol. Dywedodd fod sylw sylweddol i'r digwyddiadau yn ystod cynhadledd Glasgow a rhoddwyd ffocws arbennig hefyd ar ddylanwad Cymru o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Dywedodd fod hyn wedi cael effaith gadarnhaol ac wedi codi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned. Roedd yntau hefyd yn obeithiol y byddai pobl yn fwy ymwybodol o newid hinsawdd ond awgrymodd fod angen i'r llywodraeth weithio gyda'r gymuned a rhoi adnoddau i unigolion er mwyn iddynt deimlo'n fwy hyderus i wneud newidiadau cadarnhaol.
 
Pwysleisiodd Poppy Stowell-Evans, Cadeirydd, Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru, fod newid hinsawdd yn rhwystr sylweddol i gydraddoldeb ledled y byd. Mynegodd hefyd fod angen i weithredu fod yn fwy hygyrch i bawb. Myfyriodd ar gyfarfod y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow a'i thrafodaethau â Phobl Frodorol o Beriw a ddatgelodd sut mae eu ffyrdd o fyw wedi'u heffeithio'n drasig gan newid hinsawdd. Awgrymodd fod angen rhoi mwy o bwysau ar y llywodraeth i sicrhau bod busnesau yn atebol.
 
Disgrifiodd Shenona Mitra, Is-gadeirydd a Swyddog Cyfathrebu, Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, y pwysigrwydd o leisio barn er mwyn rhoi pwysau ar y bobl sy'n gwneud penderfyniadau i fewnosod newidiadau cadarnhaol. Awgrymodd fod angen gweithredu mwy o newid er mwyn gwneud trafodaethau ynghylch newid hinsawdd yn fwy hygyrch, a dywedodd y byddai hygyrchedd yn gwella trafodaethau ac yn galluogi'r llywodraeth i weithio'n effeithiol gyda'r gymuned i greu strategaethau i ymgorffori pawb yn ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
 
Rhannodd Rosalind Skillen ei bod hi'n teimlo dyletswydd i weithredu fel rhwymedigaeth foesol. Dywedodd fod yr argyfwng hinsawdd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb a myfyriodd ar gynnydd y llywodraeth mewn perthynas â gweithredu dros yr hinsawdd yng Ngogledd Iwerddon. Myfyriodd ar yr angen i wella dulliau o godi ymwybyddiaeth o'r hinsawdd oherwydd bod trafodaethau cyfredol yn defnyddio iaith dechnegol ac yn eithrio cynulleidfaoedd eang. Awgrymodd y dylid cyflwyno gwybodaeth mewn modd y gellir uniaethu â hi fwy ac sy'n fwy creadigol, drwy adrodd straeon.

e recent UN Climate Change meeting held in Glasgow, and outlined the nation’s collaborative effort to meet the Net Zero Wales plan.

First Minister Mark Drakeford welcomed participants to Wales Climate Week 2021. Reflecting on the Glasgow Climate Change Conference, he underlined that Wales’ small size was no deterrence to the sizeable impact they had in Glasgow and highlighted Wales joining the Beyond Oil and Gas Alliance with nations such as Denmark and New Zealand. Drakeford looked forward to continuing Wales’ strong stance on tackling the climate crisis, saying that COP Cymru 2021 is part of that effort, which involves not just the Welsh Government leading but working together as a nation “taking our fellow citizens with us.” To collectively mitigate emissions, Drakeford highlighted plans to “work together to reach net zero.”

Julie James, Minister for Climate Change, showcased Wales efforts as an early international leader on tackling climate change. She highlighted Wales as a founding member of the Under2 Coalition in 2015, which includes 260 governments and said that Wales is now refocusing efforts to reach net zero, which includes 123 government proposals such as building 20,000 low-carbon social homes. James identified the need for a “just transition” to mitigate climate change and to build climate resilience that is socially just, saying that the burden of the transition should not fall on the shoulders of those least able to bear it.

John Gummer Lord Deben, Chair of the Committee on Climate Change, praised the strong connections between local and national governments in Wales. He turned to the individual impact, stating that “you do not change the world unless you change yourself, ” and advocated for household changes. Deben argued that this is a global problem that requires a global solution and the “heart of the battle is justice.” He called it “immoral” for the UK government to reduce overseas funding for developing nations, especially since developed nations like the UK have directly and disproportionately affected climate change.

Sophie Howe, Future Generation Commissioner for Wales, argued that Wales should be encouraging changes that seek to solve the root causes of the problem. She highlighted the UN Secretary General’s intent to appoint a special envoy for future generations, drawing on efforts that began in Wales, including the Wellbeing and Future Generations Act. Despite this international influence, Howe called for Wales to do more. In 2019, Wales declared a climate emergency, but Howe noted that no Sell to Wales Contract out of 363 referenced reducing emissions.

Clare Pillman, Chief Executive, Natural Resources Wales, outlined the importance of changing the narrative of leadership, saying “this crisis requires us to think differently.” She stressed that a single leader per organisation will not have all the ideas, and called for including workers because that is where the “energy” lies and the approach can foster a “more democratic approach to leadership.” She characterized confronting climate change as a journey that will require learning at each step and collaborating with all kinds of organisations.

A Just Transition: Future-Proof Our Work
Hosted by TUC Cymru

In this session representatives from trade unions and industry in Wales discussed the role of workers, unions, and communities in the transition to net-zero carbon emissions by 2050.

Shavanah Taj, BME General Secretary, Wales TUC, began by discussing the commonly used term “just transition,” stating that it demands inclusion of and focus on workers and communities, with a strong intersectional approach. She expressed her disappointment at the UK government’s use of the phrase in plans that lacked accountability and investment in financial support and retraining. However, she ended on a note of hope at the high level of participation, particularly among young people at the climate change conference in Glasgow.

Meesha Nehru, Labour Research Department, discussed the recent report “Negotiating Net Zero '' that provides examples of successful interventions in the UK and abroad. She praised the Spanish Plan de Cabon for providing support for new green industries and retraining and support for those that lost their jobs in traditional industries such as mining. She highlighted the Bristol Green Capital partnership for its collaboration between businesses, investors, and local government to ensure environmental investments reflected community interests. Finally, she noted the success of Environmental Recognition agreements, but suggested a push towards union-corporation collaboration and transition planning.

Jacqueline Thomas, a steelworks professional, focused on the necessity of keeping industry within Wales rather than outsourcing emissions by importing the same resources from abroad. Thomas focused on the importance of industries such as steel as quality sources of employment to communities, recalling her first-hand experience with the devastation brought by the 1980’s mine closures. She noted the steps taken by the Welsh steel industry including internal energy efficiency procedures and CO2 surcharges and encouraged further workplace sustainability practises.

Eleri Williams, Change Analyst, Office of the Future Generations Commissioner for Wales opened with her report “Inequality in Future Wales” that highlighted the importance of setting government plans in the realistic context of future Wales. She reiterated the need for accessible retraining programmes, including flexible hours and a range of courses. As well as the need for greater investment in sectors such as caring, she highlighted the need to counteract the issue of ageing populations and provide opportunities geared towards a more diverse and female demographic.

Mary Williams, Head of Political and Policy, Unite the Union, analysed three industries of particular importance to the Welsh economy. She began with Aerospace, suggesting the government should invest in green projects within the industry rather than transitioning away. She discussed energy and the impacts of “eco-redundancies” without financial support or retraining in similar roles. Finally, she highlighted the agriculture industry and its urgent need for investment to counter its ageing workforce and attract those willing to transform the sector sustainably.

Overall, the panel held a strong consensus on the need to invest in retraining and transitioning industries in a way that keeps workers and communities informed and involved with a focus on intersectionality and accessibility.

Wales - an international partner in a global crisis

This session discussed the ways in which members of the Under2 Coalition are working to reduce emissions and keep warming within 1.5 ºC.

Tim Ash Vi, Director, Under2 Coalition, welcomed everyone and outlined the focus on international cooperation. He highlighted the importance of bringing governments together as they attempt to combat climate change.

Michael Matheson, Cabinet Secretary for Net Zero, Energy and Transport Scotland, underlined cooperation and collaboration, saying that the Under2 Coalition creates a network which enables governments to effectively collaborate to tackle climate change. He emphasised that smaller states have a less ability to face climate change alone, requiring working as a collective to be more effective. Going forward, Matheson suggested that support among countries should be improved, in order to achieve ongoing and regular cooperation. He pointed out that sub-national governments are playing an increasingly important role, as we enter the “delivery period” of climate change action.

Arantxa Tapia, Minister for Economic Development, Sustainability and Environment of the Basque Country, discussed ways in which the Basque government is supporting a transition to net zero. She detailed that the UN Climate Change Conference in Glasgow demonstrated that there is still a need for acceleration in areas such as climate finance. Tapia described how the Basque Country is aiming to take the climate into account when considering all aspects of policies. Furthermore, she highlighted the importance of working with local governments, in collaboration with scientists and citizens, to deliver strategies.

Oswaldo Lucon, Special Advisor, Government of Sao Paulo, described the benefits of the Under2 Coalition, highlighting how the network allowed for the identification of weaknesses in current strategies and the ability to model more effective ones. He described how his ambitions for connections go beyond just Sao Paulo and Brazil, to include others in the Global South. With all the difficulties that lie ahead regarding climate change, he stressed that networks are essential for keeping on track.

Julie James, Minister for Climate Change, reflected on her feelings of both optimism and outrage while at the Glasgow meeting. She highlighted how beneficial she found connecting with colleagues from the Under2 Coalition and discussing their shared problems and strategies. She also stressed the importance of individuals’ actions and how they can make a difference. James praised how Wales demonstrated its influence on a global stage, despite being a small country. Similarly, she highlighted the level of influence now held by the Under2 Coalition.

Closing the session, Matheson expressed a feeling of “cautious optimism” regarding the Glasgow meeting. He noted the next UN Climate Change Conference will be a real test regarding how far governments are willing to go with climate policies. Tapia, although also expressing optimism after Glasgow, emphasised the need for action.

The youth of Wales – their say on the climate emergency

In this session, young people reflected on the UN Climate Change Conference held in Glasgow and discussed its impact. In response to discussions held at the conference, they also highlighted some priorities the government should consider in order to effect necessary climate action.

Emily Rose Jenkins, Future Generations Leadership Academy alumni, described how the threat of climate change in her own local area motivated her to speak out about climate change. She recognised education as an important tool to encourage and empower young people to use their voice and how events like Youth day help to involve school children. She stressed that the Welsh Government needs to work closer with the community to make it clear what the future of climate change could look like without adaptation and building resilience.

Joshua Beynon, Future Generations Leadership Academy alumni, shared how he was compelled to take action against climate change in response to the increased risk of flooding in his local area. He reported that during the Glasgow conference there was significant coverage of the events and also special focus on the influence of Wales in addressing the climate emergency. He said that this had a positive impact and generated increased awareness amongst the community. He shared hope that people will be more aware of climate change but suggested that the government needs to work with the community and provide individuals with resources so they feel more confident that they can make positive changes.

Poppy Stowell-Evans, Chair, Youth Climate Ambassador for Wales, highlighted that climate change is a significant barrier to equality across the world. She also highlighted that activism needs to be more accessible to all. She reflected on the UN Glasgow meeting and her discussions with Indigenous Peoples from Peru who relayed how their livelihoods had been tragically impacted by climate change. She suggested that more pressure needs to be put on the government to hold businesses accountable.

Shenona Mitra, Vice Chair and Communications Officer, Youth Climate Ambassadors for Wales, described the importance of speaking up to pressure decision makers to implement positive changes. She suggested that more change needs to be implemented to make discussions about climate change more accessible, saying that accessibility would improve discussions and enable the government to work effectively with the community to create strategies to incorporate everyone in their vision for the future.

Rosalind Skillen shared how she felt compelled to activism as a moral obligation. She highlighted that the climate crisis is a matter of social justice and equality and reflected on parliamentary progress in relation to climate action in Northern Ireland. She reflected on the need to improve methods of raising climate awareness because at present discussions use technical language and alienate large audiences. She suggested that information should be presented in a way that is more relatable and creative, through mediums of storytelling.

 

BWLETIN DYDDIOL WYTHNOS HINSAWDD CYMRU - DIWRNOD 2 (Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2021) - Ynni ac allyriadau

Datgarboneiddio diwydiannol – symud tuag at sero-net

Trefnwyd y sesiwn hon gan Glwstwr Diwydiannol De Cymru

Roedd y sesiwn hon, a gyflwynwyd gan yr Athro Carwyn Jones, cyn Brif Weinidog Cymru, yn esbonio sut y mae Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SIWC) yn pennu’r llwybr tuag at sero-net. Canolbwyntiodd y siaradwyr ar ddatgarboneiddio’u priod ddiwydiannau.

 

Canolbwyntiodd Jeremy Smith, Busnes Hydrogen RWE Generation, ar gapasiti a chamau Clwstwr Diwydiannol De Cymru i sicrhau ffyniant yn Ne Cymru. Gan grybwyll heriau’n ymwneud â datgarboneiddio, cyflwynodd Smith “Gynllun Twf Glân ar gyfer Clwstwr Diwydiannol De Cymru”, lle ymdrinnir â hierarchaeth datgarboneiddio, y seilwaith angenrheidiol, cyflenwad ynni carbon isel ac agweddau ar bolisi. Dywedodd Smith fod hydrogen yn ffordd o ddatgarboneiddio clystyrau diwydiannol y DU ac fe’i disgrifiodd fel “asgwrn cefn Prydain” o ran cyrraedd sero-net erbyn 2050.

 

Trodd John Egan, HyNet, y sylw oddi ar ranbarth y De, gan ganolbwyntio yn hytrach ar ranbarth y Gogledd Orllewin. Trafododd weithgareddau sydd ar waith ar hyn o bryd i leihau allyriadau o fewn y degawd hwn. Nododd Egan fod camau HyNet yn cynnwys dwyn ynghyd allyrwyr mawr ar draws sectorau er mwyn lleihau eu hallyriadau. Esboniodd Egan sut y gellir hwyluso’r broses o ddefnyddio hydrogen a sut y gellir ei gyfuno â’r rhwydwaith naturiol. Hefyd, soniodd am gynhyrchu a chyllido hydrogen, a chydnabu mai “rhan o’r ateb” oedd HyNet. Daeth â’i gyflwyniad i ben trwy bwysleisio pa mor bwysig yw bwrw ymlaen â’r ymdrech i ddefnyddio hydrogen.

 

Ymdriniodd Henry James, Clystyrau Diwydiannol Wales and West Utilities, â llwybrau datgarboneiddio rhanbarthol a’r seilwaith pibellau hydrogen. O ran seilwaith, crybwyllodd ymdrechion i fapio lleoliadau cynhyrchu hydrogen, cynllunio’r galw am hydrogen ac asesu’r seilwaith pibellau presennol a geir yn y rhwydwaith dosbarthu nwy. Ar wahân i ymgyfarwyddo’r gynulleidfa â Grŵp Arweinwyr y Dyfodol yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru, siaradodd am Gynllun y Clwstwr a’r endidau Defnyddio yn y Clwstwr. Ymhellach, cyflwynodd uchelgeisiau i leihau dwysedd carbon nwy.

 

Trafododd Jim Woodger, LanzaTech UK, y technolegau a ddatblygwyd gan LanzaTech i fynd i’r afael â heriau datgarboneiddio. Mae’r technolegau hyn yn cynnwys technoleg eplesu nwy a thechnoleg i droi alcohol yn danwydd jet. Disgrifiodd Woodger y dull eplesu nwy, gan esbonio sut y mae’n troi nwyon yn ethanol ac yn creu cylch di-dor o garbon wedi’i ailgylchu. Ymhellach, dywedodd fod technoleg sy’n troi alcohol yn danwydd jet yn cynnig ateb i ddatgarboneiddio’r diwydiant hedfanaeth trwy ddarparu tanwydd hedfan mwy cynaliadwy.

 

Dechreuodd Max Barthelme, Protium, trwy ddisgrifio’r dulliau gwahanol o ddefnyddio hydrogen, a’r dulliau o’i gynhyrchu. Hefyd, cyflwynodd drosolwg o Protium, sy’n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, cynhyrchu a storio hydrogen gwyrdd, dosbarthu hydrogen, a thrafnidiaeth heb allyriadau. Nododd “nad oes dim yn newydd ynglŷn â hydrogen”, a honnodd fod y defnydd y gellir ei wneud ohono yn eang iawn. Canolbwyntiodd Barthelme ar brosiect y gweithiwyd arno gyda Budweiser, a disgrifiodd gynllun i fragu cwrw gyda “haul, gwynt a dŵr” – sef y bragdy cyntaf yn y DU i redeg ar hydrogen.

 

Ar ddiwedd y sesiwn, holodd y cyfranogwyr am yr amserlenni ar gyfer newid a pha mor fforddiadwy fyddai’r cynlluniau i gwsmeriaid.

Tai a adeiledir o’r newydd – dull sero-net

Trefnwyd y sesiwn hon gan Lywodraeth Cymru

Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio tai yng Nghymru, datblygu dulliau sero-net mewn perthynas ag adeiladau newydd, a lleihau allyriadau carbon y tai sydd i’w cael eisoes.

Aeth Darren Hatton, Rhaglen Tai Arloesol, Llywodraeth Cymru, ati i gyflwyno’r Rhaglen Tai Arloesol sy’n anelu at herio dulliau traddodiadol o adeiladu tai a phrofi atebion arloesol. Dywedodd fod y rhaglen wedi sicrhau £145m ar gyfer bron i 2,000 o gartrefi arloesol mewn 64 o ddatblygiadau tai. Nododd dri pheth a gyflawnwyd: darparu tai yn gyflym; treialu modelau tai newydd a dulliau darparu newydd; a gostwng allyriadau. Soniodd am rai rhwystrau, ond mae Darren yn dal i fod yn ffyddiog y gallwn ddarparu 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol carbon isel erbyn 2026.

Siaradodd Patrick Myall, Pensaer, Llywodraeth Cymru, am ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol sy’n eiddo i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Dywedodd mai’r brif her sy’n wynebu datgarboneiddio yw gwresogi a dŵr poeth. Cyflwynodd Myall bolisi Llywodraeth Cymru, sef y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, fel ffordd o gynnig cynhesrwydd a datgarboneiddio fforddiadwy, trwy gydbwyso mesurau’n ymwneud â’r adeiladwaith, technoleg a datgarboneiddio’r grid. Pwysleisiodd y gwaith sy’n angenrheidiol i warantu y caiff cynlluniau ôl-osod eu gosod yn briodol, a’r angen i sicrhau y bydd y tenantiaid yn cael eu cynnwys yn llwyr a’u bod yn deall pa mor bwysig yw’r newidiadau hyn i’w cartrefi.

Dechreuodd Campbell Lammie, Uwch-swyddog Technegol Safonau Tai, Llywodraeth Cymru, trwy ddatgan sut y mae arloesi a fforddiadwyedd wedi siapio ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd, a phwysleisiodd pa mor bwysig yw gweithredu yn y degawd nesaf. Canolbwyntiodd ar newid y ffordd y caiff cartrefi eu hadeiladu, gan ystyried y safonau newydd a bennir lle mynnir y dylid cael cartrefi o ansawdd uwch nad ydynt yn defnyddio systemau gwresogi tanwydd ffosil, gyda dull adeiladwaith yn gyntaf. Nododd y tri gofyniad sy’n berthnasol i adeiladu cartrefi: cynaliadwyedd; lle, neu ddarparu ar gyfer aelwydydd o amrywiol faint; a diogelwch.

Bu aelod olaf y panel, sef Andy Sutton, Prif Swyddog Arloesi, Llywodraeth Cymru, yn ymdrin â’r modd y mae’r grid cenedlaethol yn datgarboneiddio, a sut y gall rhagolygon yn ymwneud â thai carbon niwtral ategu’r ymdrech bresennol tuag at gyflawni sero-net. Soniodd am lwyddiannau prosiectau Parc Eirin a Pharc Hadau i ddangos sero-net mewn sefyllfaoedd gwirioneddol. Yna, manylodd Sutton ynghylch sut y gall offer digidol helpu pobl i ddeall a phennu’r pethau hynny yn eu cartrefi sy’n dihysbyddu ynni, a daeth i ben trwy nodi’r gwerth sylweddol uwch a roddir ar hyn o bryd ar effeithlonrwydd ynni tai.

 

Ynni’r Môr – sut y gall datblygiadau arloesol ategu system ynni wedi’i datgarboneiddio

Trefnwyd y sesiwn hon gan Ynni Môr Cymru

Archwiliodd y sesiwn hon y posibilrwydd bod modd i Gymru ddod yn arweinydd o ran ynni’r môr trwy drafod y gwersi a ddysgwyd ar sail prosiectau peilot.

Lansiodd Jess Hooper, Ynni Môr Cymru, y sesiwn trwy gyflwyno Ynni Môr Cymru. Nododd bedair prif ffordd y gellir cynhyrchu ynni trwy ddefnyddio’r môr: ffrwd llanw, amrediad llanw, tonnau a llif. Aeth Hooper yn ei blaen i dynnu sylw at ba mor bwysig yw cynhyrchu pŵer trwy ddefnyddio amryfal ffynonellau cynaliadwy, a thanlinellodd pa mor lwcus yw Cymru o gael adnoddau o’r fath i’w defnyddio.

Bu Osian Roberts, Minesto, yn trafod y “barcud tanddwr” a ddatblygwyd gan y cwmni, ynghyd â’i rôl yn nyfodol ynni adnewyddadwy. Disgrifiodd sut y mae’r barcud yn gweithio trwy “hedfan” dan y tonnau a symud y dŵr yn ofalus i dyrbin. Tynnodd sylw at fanteision y barcud – sef y ffaith ei fod yn ddibynadwy ac yn ymarferol. Hefyd, nododd Roberts fod integreiddio gyda chymunedau lleol yn ffactor pwysig ym mhrofion llwyddiannus y cwmni yng Nghymru. Yn olaf, pwysleisiodd Roberts y dylid manteisio ar y ffaith fod yr argyfwng hinsawdd yn cael cymaint o sylw ar hyn o bryd er mwyn gwneud gwahaniaeth i’r cymysgedd ynni yng Nghymru.

Dechreuodd David Jones, Simple Blue Energy, trwy gyflwyno gweledigaeth Simple Blue Energy i greu sector ynni alltraeth carbon isel yn y Môr Celtaidd – sector a fyddai’n cyfrannu at y targed sero-net, yn darparu swyddi, yn arwain at amrywiaeth yn y gadwyn gyflenwi ac yn esgor ar ddiogelwch ynni. Cyflwynodd fideo yn dangos sut y defnyddir gosodiad alltraeth i ddatblygu’r arfer o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy. Pennodd heriau sy’n deillio o gynhyrchu ynni, sef maint y seilwaith a’r broses o’i osod. Daeth Jones â’i gyflwyniad i ben trwy honni y bydd sectorau ynni’r môr yn hollbwysig o ran cyrraedd sero-net.

Pwysleisiodd Sam Leighton, Bombora, pa mor bwysig yw arloesi a datgarboneiddio, a chyflwynodd y datblygiad arloesol technegol a grëwyd gan Bombora, sef mWave. Crybwyllodd Brosiect Sir Benfro a’r broses o adeiladu cydran ynni tonnau fwyaf pwerus y byd. Daeth Leighton â’i gyflwyniad i ben trwy ystyried yr hyn y mae angen ei wneud o ran arloesi, a nododd bwysigrwydd syniadau technolegol newydd, y gallu i addasu, a pha mor bwysig yw ychwaneg o bartneriaethau er mwyn defnyddio mwy ar ynni’r tonnau fel ffynhonnell ynni cynaliadwy.

Bu Henry Dixon, Tidal Wave Alliance ac Ynni Llanw Gogledd Cymru, yn trafod y ffaith na ddylid meddwl ddwywaith cyn defnyddio Amrediad Llanw. Pwysleisiodd fod natur ddibynadwy’r system yn golygu ei bod yn addas i gynorthwyo dulliau ynni eraill i ddarparu llwyth sylfaenol. Nododd yr hyn y gall môr-lynnoedd llanw a morgloddiau ei wneud i ddiogelu cymunedau arfordirol, yn enwedig yn wyneb y cynnydd a welir yn lefel y môr. Yn olaf, ystyriodd sut y gall prosiectau amrediad llanw gynorthwyo i “godi’r gwastad”, trwy ddarparu amrywiaeth o swyddi mewn cymunedau.

 

Pŵer i’r Bobl – datgarboneiddio ynni ar gyfer diwydiannau a chymdeithas

Trefnwyd y sesiwn hon gan SWITCH Connect

Tynnodd y sesiwn hon sylw at y gwaith a wneir gan Brifysgolion yng Nghymru i ategu pontio tuag at sero-net.

Aeth yr Athro Dave Worsley, Prifysgol Abertawe, ati i ddisgrifio rhaglen SWITCH fel “catalydd ar gyfer newid” mewn perthynas â datgarboneiddio, trwy ddarparu cynhyrchion carbon isel newydd, swyddi newydd a chyfleoedd i gydweithio’n fyd-eang. Nododd fod y prosiect yn cynnwys tair rhaglen, a’i fod yn ymdrin â meysydd fel pŵer, trafnidiaeth ac adeiladau. Pwysleisiodd Worsley pa mor bwysig yw addasu eu gwaith er mwyn esgor ar effaith ehangach mewn cymunedau.

Disgrifiodd Joanna Clarke, Prifysgol Abertawe, sut y mae adeiladau ynni gweithredol yn arwain at leihad sylweddol yn yr ynni a ddefnyddir a’r allyriadau carbon a gynhyrchir trwy integreiddio technoleg ynni adnewyddadwy. Rhoddodd enghraifft o ddefnyddio’r technolegau hyn yn yr Ystafell Ddosbarth Ynni Gweithredol ac mewn Swyddfa ar Gampws Prifysgol Abertawe. Tynnodd Clarke sylw at y potensial sydd gan dechnoleg adeiladau ynni gweithredol i drawsnewid bywydau cymunedau gwledig sy’n byw yn y De byd-eang trwy gyfrwng prosiectau fel Sunrise.

Cyflwynodd yr Athro Alan Guwy, Prifysgol De Cymru, gerrig milltir hollbwysig yn ymwneud ag amryfal brosiectau trafnidiaeth hydrogen, yn awr ac yn y gorffennol. Ymhellach, tynnodd sylw at ddatblygiadau mewn trafnidiaeth hydrogen a’r potensial i ymestyn hyn ymhellach yn y sector trafnidiaeth, a soniodd am y modd y gallai hyn drawsnewid y byd diwydiant a bywyd domestig.

Aeth Dr Christopher Groves, Prifysgol Caerdydd, ati i archwilio agweddau cymdeithasol tuag at bontio i systemau ynni carbon isel. Trafododd waith sydd ar y gweill yng nghymunedau Cymru mewn perthynas â systemau ynni newydd, lle ymchwilir i’r modd y gall pryderon y gymuned effeithio ar y ffordd y caiff systemau ynni eu dirnad. Wrth i’r prosiectau ddatblygu, nododd y gall gwaith ymchwil lywio cynlluniau i liniaru “bregusrwydd ynni”. Tynnodd Groves sylw at ba mor bwysig yw ymgysylltu â chymunedau ynglŷn â’r newidiadau a gyflwynir i’w systemau ynni.

 

Yr economi gylchol – symud tuag at ddefnydd cynaliadwy

Trefnwyd y sesiwn hon gan Lywodraeth Cymru

Disgrifiodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y gobaith a’r arswyd a deimlodd yn dilyn y trafodaethau a gafwyd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw cymryd camau beiddgar i leihau effeithiau newid hinsawdd, a chefnogodd yr angen i feithrin economi gylchol. I oresgyn yr heriau, awgrymodd y dylid cydweithio er mwyn newid ymddygiadau a sicrhau bod opsiynau adnewyddadwy yn fwy hygyrch.

Tynnodd Natalie Rees, Trafnidiaeth Cymru, sylw at y manteision a’r elfennau ymarferol sy’n perthyn i ddatblygiadau adnewyddadwy. Disgrifiodd rai o’r dewisiadau adnewyddadwy a wnaed gan Trafnidiaeth Cymru pan symudodd ei swyddfa i Bontypridd, yn cynnwys ailddefnyddio ac ailgylchu hen ddodrefn. Ymhellach, dywedodd fod cydweithio gyda sefydliadau lleol eraill, yn cynnwys Rype Office, wedi helpu i gryfhau ymdrechion Trafnidiaeth Cymru. Tynnodd Rees sylw at y ffaith fod y prosiect wedi esgor ar fanteision cymdeithasol, yn cynnwys partneriaeth gyda Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful.

Tynnodd Bettina Gilbert, WRAP, sylw at y modd y gall economi gylchol helpu i adeiladu busnesau cryf a chadarn. Nododd fod WRAP yn cynnig cymorth i helpu llunwyr polisïau, busnesau a’r sector cyhoeddus i ddatblygu strategaethau i’w gwneud yn llai dibynnol ar ddeunyddiau crai. Pwysleisiodd yr effaith sy’n deillio o ailgylchu a sut y gellir defnyddio ailgylchu i ddatblygu cadwyn gyflenwi fwy cadarn.

​​Aeth Phoebe Brown, Caffi Trwsio Cymru, ati i rannu gwerthoedd craidd y prosiect, yn enwedig lleihau gwastraff, rhannu sgiliau a chydlyniant cymunedol. Ar wahân i atal eitemau rhag cael eu taflu, dywedodd Brown fod y Caffi Trwsio yn ffordd o oresgyn ynysigrwydd cymdeithasol. Dangosodd eitemau a gaiff eu trwsio’n arferol mewn Caffis Trwsio, a hefyd dangosodd faint o allyriadau carbon y gellir eu harbed trwy drwsio. Ymhellach, pwysleisiodd y cyfraniad at y mudiad ehangach Hawl i Drwsio.

Yn ôl Ella Smillie, Benthyg Cymru, mae’r arfer o ‘gael benthyg’ a ‘rhoi benthyg’ yn ffordd o ymateb i broblemau gorddefnyddio ac anghydraddoldeb. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw creu mannau lle gall pobl rannu sgiliau a rhoi/cyfrannu pethau nad oes arnynt eu hangen mwyach. Disgrifiodd Benthyg Cymru fel prosiect cymunedol sy’n canolbwyntio ar brisiau isel. Crybwyllodd Smillie y diffyg cysylltiad rhwng yr ymatebion brwd a gafwyd i’r prosiect a’r defnydd a wnaed ohono mewn gwirionedd, a thynnodd sylw at bwysigrwydd hyrwyddo.

Nododd Stephen Maund, Lleihau Plastig yr Wyddgrug, y camau a gymerwyd fel rhan o Lleihau Plastig yr Wyddgrug. Cyfeiriodd Maund at wahanol bartneriaethau a chynghreiriaethau cymunedol. Pwysleisiodd fod angen i’r prosiect gael ei ymwreiddio yn y gymuned. Ymhellach, pwysleisiodd Maund pa mor bwysig yw ymgysylltu â’r gymuned, a chynigiodd yr arfer o gasglu sbwriel a’r prosiect Naked Takeaway fel enghreifftiau.

Ar ddiwedd y sesiwn bu’r panelwyr yn trafod pynciau a grybwyllwyd yn yr adran Holi ac Ateb, yn cynnwys ffyrdd o annog pobl i gymryd camau beiddgar i newid eu hymddygiad. Hefyd, buont yn trafod yr heriau sy’n wynebu busnesau, yn enwedig o ran addasu wrth newid o economi linol i economi gylchol.

BWLETIN DYDDIOL WYTHNOS HINSAWDD CYMRU - DIWRNOD 3 (Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2021) - Sut y mae Cymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd?

O ddatganiadau i weithredu: gweithio mewn partneriaeth ar yr argyfwng hinsawdd

Yn y sesiwn hon, bu panelwyr o Brifysgol Caerdydd, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn archwilio’r cynnydd ers iddynt gyhoeddi Argyfwng Hinsawdd ddiwedd 2019. Lorraine Whitmarsh o’r Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST), Prifysgol Caerfaddon, a fu’n cymedroli’r trafodaethau, a dywedodd fod Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow wedi bod yn gyfle i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed a’r heriau anferth sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.

Pwysleisiodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ei bod hi’n hanfodol i’r byd weithio mewn partneriaeth yn ystod y “degawd nesaf o weithredu” er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd. Dangosodd James yn glir fod gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn inni allu esgor ar y newid angenrheidiol i gyflawni nodau sero-net. Ymhellach, pwysleisiodd James pa mor bwysig yw cael polisïau cyhoeddus cydlynol sy’n ystyried yr amryfal effeithiau ar bobl, a dywedodd fod ymgysylltu yn hollbwysig o ran ymdrin â’r materion hyn a datblygu camau gweithredu ar y cyd. Hefyd, cyfeiriodd James at ba mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio eisoes trwy gyfrwng partneriaethau ar draws pob haen, o ddinasyddion yr holl ffordd i’r brig.

Trafododd Hugh Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y gwaith a wnaed gan y Cyngor eisoes i gyflawni ei dargedau. Tynnodd Thomas sylw at y ffaith fod y Cyngor wedi gosod systemau ynni solar a goleuadau strydoedd LED, bod ganddo farchnad fwyd gynaliadwy, ei fod wedi plannu 10,000 o goed yn y ddinas, a hefyd ei fod yn bwriadu ailagor y camlesi fel rhan o gynllun dŵr cynaliadwy. Pwysleisiodd Thomas fod angen ynni glân a chynaliadwy, a rhoddodd y diweddaraf am gynnydd y fferm solar newydd 9 megawat o ran lleihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil. Ymhellach, pwysleisiodd Thomas sut y gall a sut y dylai polisi cymdeithasol a pholisi amgylcheddol fynd law yn llaw. Trafododd Thomas y cyfleoedd gwirioneddol i adeiladu’n ôl yn wyrddach ac yn decach yn dilyn y pandemig, megis trefniadau gweithio hybrid a allai arbed oddeutu 5,000,000 o filltiroedd pe bai staff y Cyngor yn peidio â theithio i’w gwaith un diwrnod yr wythnos.

Dywedodd Mike Bruford, Prifysgol Caerdydd, fod sawl her yn wynebu’r Brifysgol a hithau ar wasgar ar draws y ddinas, a thynnodd sylw at faterion gweithredol y Brifysgol. Pwysleisiodd Bruford mai addysg ac ymchwil yw cenhadaeth y Brifysgol, ac er bod yn rhaid iddi gyrraedd ei thargedau sero-net, rhaid iddi hefyd weithio o fewn y gymuned. Ymhellach, nododd Bruford sut y mae partneriaethau’n digwydd mewn modd organig o fewn y Brifysgol, ac fel enghraifft o hyn aeth ati i sôn am y gwaith a wna’r Brifysgol gyda’r Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru ar gynllunio gofodol a gorchudd canopi coed ar gyfer y ddinas. Ymhellach, tynnodd Bruford sylw at yr effaith a gafodd y pandemig Covid-19 ar y Brifysgol, yn cynnwys cyfle i ailasesu sut y mae angen i’r Brifysgol weithio yn y dyfodol a chyfle i gymharu allyriadau’r Brifysgol yn ystod y 18 mis diwethaf gyda’i llinell sylfaen cyn y pandemig.

 

Rhywbeth i gnoi cil arno – sut y mae’r busnes bwyd yn ysgogi cynaliadwyedd

Trefnwyd y sesiwn hon gan Lywodraeth Cymru

Tynnodd y sesiwn hon sylw at y camau a gymerir ar hyn o bryd i wella cynaliadwyedd wrth gynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd yng Nghymru, er mwyn lleihau allyriadau CO2 y sector.

Dywedodd David Morris, Dirprwy Bennaeth yr Is-adran Fwyd, Llywodraeth Cymru, fod gweithgynhyrchu bwyd yn esgor ar 12% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Pwysleisiodd fod yn rhaid edrych ar holl bolisïau Llywodraeth Cymru trwy lens newid hinsawdd. Dywedodd y dylid rhoi dull cyfannol ar waith yn achos y gadwyn fwyd gyfan er mwyn asesu’r effaith ar yr hinsawdd, gweld beth yw cyfraniad y diwydiant a gweld sut y gellir ymdrin â’r heriau.

Ychwanegodd Morris nad yw Llywodraeth Cymru yn ceisio gwyrddgalchu. Pwysleisiodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i B-corp a dywedodd ei fod yn hyderus y bydd yr achrediad yn esgor ar safon uchel ledled y byd.

Dywedodd Dr Claudia Guy, Pennaeth Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, pa mor bwysig yw gweithredoedd a gwerthoedd polisïau o ran gwella cynaliadwyedd y diwydiant. Cyflwynodd weledigaeth strategol Llywodraeth Cymru, sef “adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.”

Dywedodd nad cyflawni sero-net yn unig yw hanfod cynaliadwyedd. Yn hytrach, dylai cynaliadwyedd arddangos cyfres o werthoedd yn y gadwyn fwyd, er enghraifft rheoli adnoddau, diogelu’r amgylchedd ac effeithlonrwydd yr amgylchedd.

Pwysleisiodd y cymorth sydd ar gael trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru o ran ennill achrediad B-Corp, sef achrediad a gaiff ei ystyried fel safon aur ar gyfer cynaliadwyedd o fewn y diwydiant.

Daeth Guy i ben trwy ddweud bod ymddygiad defnyddwyr yn ffactor pwysig wrth ystyried beth a faint a fwytawn, a faint a wastraffwn.

Aeth Mark Grant, Pennaeth y Clwstwr Cynaliadwyedd a Chyfarwyddwr Cyswllt, Levercliff, ati i gyflwyno’r clwstwr cynaliadwyedd a’i weledigaeth i wneud y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ymhlith y diwydiant mwyaf cynaliadwy o’i fath yn y byd, gan ddwyn ynghyd fuddiannau a phroblemau cyffredin.

Sefydlwyd y clwstwr yn ystod yr 8-10 mis diwethaf, a’i obaith yw arwain a rheoli mewn pum maes, sef: adeiladu ymwybyddiaeth; meithrin sgiliau, gallu a chapasiti; gwella gwybodaeth; mewnwelediad ac ymchwil; a hyrwyddo arferion gorau.

Ar hyn o bryd mae’r clwstwr yn cynnwys 80 o gyflenwyr, sefydliadau marchnata a chyfathrebu brand Cymru, y byd academaidd, amaethyddiaeth sylfaenol a sefydliadau fel B-corp. Caiff ei reoli trwy gyfrwng cyfarfodydd misol ac adroddiadau rheolaidd i randdeiliaid allweddol, er mwyn helpu cyflenwyr i bennu eu sefyllfa bresennol a’r cymorth parhaus y maent ei angen.

Mae Grant yn awyddus i ymestyn y clwstwr cynaliadwyedd, a dywed fod croeso i gyflenwyr sy’n awyddus i wella’u cymwysterau cynaliadwyedd ymuno â’r clwstwr.

Yn ôl David Jason Murphy, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, AMRC Cymru, nod AMRC yw cynhyrchu bwyd trwy ddefnyddio’r dull mwyaf cynaliadwy posibl. Mae safle AMRC wedi creu canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer gweithgynhyrchu uwch, gan gyfuno gwaith ymchwil cymhwysol blaengar â datblygu sgiliau.

Mae’r Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yn gweithio gyda miloedd o gwmnïau gweithgynhyrchu bach i wella perfformiad eu busnes trwy drawsnewid eu cynhyrchion, eu proses weithgynhyrchu a sgiliau eu gweithlu.

Tynnodd Murphy sylw at y ffaith fod AMRC yn cynorthwyo i ddatgarboneiddio’r diwydiant bwyd a diod trwy ddefnyddio technoleg ddigidol ddiwydiannol. Maent yn defnyddio efelychiadau digidol o safleoedd i fapio prosesau cynhyrchu er mwyn pennu atalfeydd a chyfyngiadau. Tynnodd sylw at rai o’r prosiectau arloesol y mae AMRC yn mynd i’r afael â nhw ar hyn o bryd. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw hi i arian y llywodraeth ac arian preifat gael ei fuddsoddi ar yr un pryd yn AMRC, a hefyd pwysleisiodd y manteision economaidd a ddaw i ran y DU yn sgil AMRC.

 

Cyflymu gweithredu er mwyn rheoli’r perygl llifogydd sy’n wynebu Cymru mewn hinsawdd gyfnewidiol

Aeth y panel ati i drafod llifogydd, sef un o’r risgiau mwyaf sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd. Pwysleisiodd y panelwyr fod angen mynd ati ar frys i godi ymwybyddiaeth o reoli perygl llifogydd ac addasu i newid hinsawdd.

Gosodwyd y cyd-destun sy’n berthnasol i berygl llifogydd yng Nghymru gan Jeremy Parr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chynigiodd hyn sylfaen ar gyfer y siaradwyr dilynol. Ar sail adroddiad diweddar gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), tynnodd Parr sylw at y ffaith fod newid hinsawdd yn digwydd yn gyflym a’i fod yn dwysáu, a bod un o bob wyth o aelwydydd Cymru mewn perygl o ddioddef llifogydd. Pwysleisiodd fod angen addasu i newid hinsawdd a bod angen cymryd camau i ddiogelu’r cymunedau arfordirol hynny yng Nghymru sy’n wynebu perygl llifogydd.

Yn ôl Ross Akers, Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hi’n hollbwysig cael agenda addasu gref. Dywedodd nad yw’r seilwaith llifogydd sydd i’w gael ar hyn o bryd yn cyd-fynd â’r perygl llifogydd a welwyd mewn blynyddoedd diweddar, a bod angen ystyried dull addasol a hyblyg yn y dyfodol. Dywedodd Akers fod angen gweithio gyda natur yn hytrach na pharhau i frwydro yn ei herbyn. Ymhellach, trafododd Akers y broblem o gael argyfwng hinsawdd ochr yn ochr ag argyfwng natur, a dywedodd y gallai adeiladu seilwaith arwain at ddinistrio ecosystemau hanfodol. Tynnodd Akers sylw hefyd at y ffaith nad problem yn ymwneud â dŵr yn unig yw llifogydd – mae’n broblem gymdeithasol sy’n effeithion fawr ar nifer o gymunedau a chartrefi yng Nghymru.

Tynnodd Dominic Scott, Dŵr Cymru Welsh Water, sylw at y broblem o ran trin dŵr a charthion yn llifo wrth ymyl afonydd ac arfordiroedd y disgwylir i lifogydd effeithio arnynt. Os ydym am gael cymunedau cydnerth, pwysleisiodd Scott ymhellach fod yn rhaid inni gael cynlluniau hirdymor a bod yn rhaid inni ddeall ffactorau risg eraill. Dywedodd pa mor bwysig yw gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael ag erydu arfordirol. Er mwyn inni allu cael cynlluniau integredig, rhaid inni dderbyn ein bod angen datblygiadau pellach a rhaid inni sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar ein hasedau dŵr gwastraff yng Nghymru. Ymhellach, dywedodd y bydd y cylch cyntaf o gynlluniau hirdymor yn helpu i asesu’r effaith ar drin dŵr gwastraff a gwella cadernid yr hinsawdd.

Aeth Jean-Francois Dulong, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ati i drafod cydnerthedd a pha mor bwysig yw gallu cymunedau i ddod atynt eu hunain ar ôl llifogydd. Pan ofynnwyd iddo am systemau amddiffyn rhag llifogydd, pwysleisiodd Dulong na allwn “ymladd tân â than”, a bod yn rhaid inni ddweud yn onest wrth unigolion ei bod hi o dro i dro yn fwy cynaliadwy inni addasu i’r peryglon llifogydd cynyddol yn hytrach nag adeiladu ychwaneg o amddiffynfeydd. Yn ôl Dulong, rhaid i’r gwaith cynllunio cynaliadwy, hirdymor ar gyfer peryglon llifogydd ddechrau yn awr, a rhaid addysgu cymunedau a’u cynnwys ar y llwybr tuag at addasu i’r risgiau newydd hyn.

Bu Darren Thomas, Cyngor Sir Penfro, yn asesu’r perygl llifogydd yn Sir Benfro, a hithau’n ardal arfordirol, a thynnodd sylw at y stormydd mwy mynych a’r glaw cynyddol a geir yn yr ardal. Trafododd Thomas y systemau sydd ar waith yn Sir Benfro ar hyn o bryd ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd, a phwysleisiodd pa mor bwysig yw dulliau newydd o addasu wrth iddi fynd yn fwyfwy anodd adeiladu amddiffynfeydd i wrthsefyll y peryglon llifogydd cynyddol. Dywedodd Thomas fod yn rhaid ystyried agweddau cymdeithasol, o gofio y gallai rhai systemau amddiffyn amharu ar ecosystemau lleol. Ym marn Thomas, rhaid i unigolion ddeall y broses o addasu i lifogydd, a chael eu cynnwys yn y broses honno, a phwysleisiodd nad mater technegol yn unig mohono.


Sicrhau Cymru sero-net – safbwynt busnes

Trefnwyd y sesiwn hon gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Busnes yn y Gymuned Cymru

Cyflwyniad: Aeth arweinwyr busnes ati i drafod rhai o’r heriau, y cyfleoedd a’r cyflawniadau hyd yn hyn wrth i’r sector preifat roi strategaethau ar waith i ddatblygu modelau busnes sero-net yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (“Deddf 2015”). Tynnwyd sylw at yr angen i’r sector preifat a’r sector cyhoeddus gydweithio ochr yn ochr â llunwyr polisïau a dinasyddion er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Pennodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, naws y sesiwn trwy ddweud bod newid hinsawdd yn fater prif ffrwd, a phwysleisiodd yr angen i weithredu ar frys. Disgrifiodd sut y mae Deddf 2015 yn cynnig ‘glasbrint’ i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ar gyfer datblygu, ac aeth yn ei blaen i annog y sectorau dan sylw i ddefnyddio hyn fel cyfle i arloesi gyda’i gilydd trwy ddefnyddio dull “Tîm Cymru”. Anogodd y ddau sector i wneud yn fawr o’r cyfle i ymdrin â materion cymdeithasol ehangach wrth iddynt ddatblygu strategaethau cynaliadwyedd.

Pwysleisiodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Amgylchedd, pa mor bwysig yw gweld y llywodraeth, y sector cyhoeddus, y sector preifat ac unigolion yn cydweithio er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd yn effeithiol. Anogodd pawb i fod yn ffyddiog ac awgrymodd y gellir cael pontio teg ac y bydd modd galluogi’r gymdeithas gyfan i wneud cynnydd os caiff cyfleoedd datblygu eu dosbarthu’n gyfartal.

Disgrifiodd Danielle Brag, Cyfreithiwr, Capital Law, sut y caiff ymdrechion i gydweithredu eu hwyluso trwy gyfrwng prosiect Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC). Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd arbenigedd o blith gweithwyr proffesiynol yn y byd diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth er mwyn helpu i greu atebion a chynnig arweiniad i ddiwydiannau i’w helpu i wneud buddsoddiadau perthnasol mewn technolegau ynni adnewyddadwy arloesol.

Dywedodd Ian Mansfield, Prif Swyddog Gweithredu Cymdeithas Adeiladu’r Principality, fod y busnes wedi gwneud ymrwymiadau uchelgeisiol yn ddiweddar i fod yn sero-net erbyn 2030. Pwysleisiodd Mansfield mai’r man cychwyn yn unig yw hyn, ond eisoes mae’r sefydliad wedi dechrau cyflwyno newidiadau cynaliadwy bach sy’n arwain at wahaniaeth mawr, fel defnyddio bylbiau ecogyfeillgar. Mae Mansfield yn ymfalchïo mewn trefniant sydd gan y Principality gyda phartner hinsawdd, a’r ffaith fod hyfforddiant llythrennedd carbon bellach yn orfodol o fewn y cwmni. Ac yntau’n gwmni sydd wedi hen sefydlu, gŵyr Mansfield fod y Principality yn esgor ar effaith fawr ledled Cymru, a’i nod yw defnyddio hyn i annog busnesau i weithio gyda’i gilydd tuag at gyflawni sero-net. Dywedodd na all yr un busnes gyflawni hyn ar ei ben ei hun.

Dywedodd Gareth Jones, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol TownSq, fod TownSq yn rhan o Gymuned B-Corp, a phwysleisiodd pa mor bwysig yw mudiadau o’r fath o ran dwyn busnesau ynghyd mewn modd effeithiol. Hefyd, dywedodd Jones fod y cysylltiad gyda B-Corp yn hwyluso’r broses recriwtio, oherwydd gŵyr pobl fod gan y cwmni weledigaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae Jones yn bendant ei farn y gallem fod wedi osgoi’r sefyllfa bresennol o ran yr hinsawdd flynyddoedd yn ôl, ac felly mae hi’n hollbwysig inni weithredu yn awr. Ond pwysleisiodd Jones na all pob busnes bach fforddio i wneud dewisiadau gwyrdd fel ymuno â B-Corps, a’u bod angen cymorth i gyrraedd dyfodol Sero-net.

Dywedodd Mari Stevens, Prif Swyddog Marchnata Ogi, fod Ogi yn gobeithio cyfrannu at Sero-net trwy ysgogi agenda cenedlaethau’r dyfodol. Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r farchnad a’r cwsmeriaid yn troi at fynd yn wyrdd. Dywedodd fod hyn yn ei gwneud hi’n haws i fusnesau roi nodau hinsawdd a chynaliadwyedd wrth galon a chraidd eu hagenda. Prif bwynt Stevens oedd bod yn rhaid i fusnesau ddysgu ar sail profiadau’i gilydd er mwyn gweithio tuag at gyflawni sero-net.

 

Mater cenedlaethol, dull lleol – pa gamau y mae Llywodraeth leol yn eu cymryd

Trefnwyd y sesiwn hon gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cyflwyniad: Yn y sesiwn hon, dangosodd Awdurdodau Lleol Cymru eu hymrwymiad i ddatgarboneiddio a’u huchelgais i ddod yn sero-net erbyn 2030. Ers cyhoeddi argyfwng hinsawdd, maent wedi rhoi sawl newid ar waith ac maent wedi parhau i ddatblygu eu dull mewn ymateb i ganlyniadau cyfredol ac wrth i gyfleoedd arloesi ddod i’r amlwg.

Tynnwyd sylw gan Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yng Nghyngor Sir Powys, at y cymhlethdodau sy’n perthyn i gynllunio, sef cymhlethdodau a gyfyd o ganlyniad i amrywiaeth y trefi, y diwylliannau a’r cymdeithasau oddi mewn i’r cyngor. O ganlyniad, mae’r cyngor wedi rhoi dull cynllunio seiliedig ar le ar waith, ac mae’r dull hwn yn galluogi cynghorau tref i ddatblygu rhaglen wedi’i theilwra i adlewyrchu pob ardal. Tynnodd sylw at effeithiolrwydd y dull o ran y Drenewydd, a hefyd tynnodd sylw at y llwyddiannau lu.

Bu Ruth Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yng Nghyngor Sir Gâr, yn disgrifio sut y mae’r argyfwng hinsawdd wedi mynnu bod yn rhaid llunio cynlluniau effeithiol yn gyflym, ar y cyd â’r llywodraeth. Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn gweithio ar gyflawni effaith uniongyrchol fesuradwy mewn meysydd gweithredol, ond bydd hyn yn esblygu wrth symud ymlaen. Yn ychwanegol at hyn, mae’r cyngor yn awyddus iawn i ymgorffori llais pobl ifanc mewn prosesau penderfynu, ac mae wedi cynnig cymorth i faniffesto diweddar gan blant ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal.

Aeth Helen Vaughan-Evans, Ymarferydd Sector Cyhoeddus yng Nghyngor Sir Ddinbych, ati i grynhoi’r camau a gymerwyd gan gyngor Sir Ddinbych ers 2019 i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ers 2019, dywedodd Vaughan-Evans fod y cyngor wedi datgan argyfwng newid hinsawdd ac ecolegol, gan ymrwymo’r awdurdod i ddod yn sero-net erbyn 2030. Mae’r cyngor wedi buddsoddi mewn hyfforddiant llythrennedd carbon, mae wedi mabwysiadu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol, ac mae wedi dod yn ecolegol gadarnhaol. Mae’r cyngor yn cymryd camau i leihau carbon mewn adeiladau ac wrth deithio, ac mae wedi cynyddu’r arfer o ddal a storio carbon trwy roi cynllun plannu coed ar waith.

Soniodd David Powell, Cyfarwyddwr Ystadau Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, am rai o lwyddiannau hinsawdd hollbwysig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Tynnodd Powell sylw at y ffaith fod y cyngor lleol wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, a’i fod yn cydnabod mai newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n ei wynebu. Dywedodd Powell fod dulliau llywodraethu effeithiol wedi’u rhoi ar waith ar ôl sefydlu’r grŵp llywio newid hinsawdd yn 2019. Rhestrodd Powell nifer o newidiadau cadarnhaol a gyflwynwyd gan y cyngor, megis lleihad o 75% yn yr ynni a ddefnyddir ers 2016 ar ôl newid goleuadau strydoedd i LED, ynghyd â chyflwyno addysg mewn ysgolion i newid ymddygiad. Pwysleisiodd Powell fod gweithred yn drech na gair.

 

BWLETIN DYDDIOL WYTHNOS HINSAWDD CYMRU – Diwrnod 4 (Dydd Iau 25 Tachwedd): Natur a gwytnwch hinsawdd

Archwilio rôl natur o ran gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

Moroedd cydnerth - cynghreiriad hollbwysig o ran newid hinsawdd

Trefnwyd y sesiwn hon gan Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol (WMAAG)

Trafododd y sesiwn hon pa mor bwysig yw amgylchedd y môr yng Nghymru o ran mynd i’r afael â newid hinsawdd, ond tynnwyd sylw at y modd y daw dan fygythiad cynyddol yn sgil allyriadau uwch.

Yn ôl Nathalie Kwok, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, bydd gan foroedd rôl hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Esboniodd sut y mae’r môr yn cael ei asideiddio wrth iddo amsugno carbon deuocsid. Nododd Kwok sut y mae’r dirywiad mewn ecosystemau arfordirol a morol yn lleihau eu gallu i storio carbon, sef elfen a elwir yn aml yn garbon glas. Pwysleisiodd Kwok sut y mae ecosystemau arfordirol a morol yn esgor ar fanteision y dylid eu blaenoriaethu, fel atal erydu arfordirol - rhywbeth sydd, yn ei barn hi, yn hollbwysig i Gymru. Tynnodd sylw at bolisïau adfer fel y Prosiect Adfer Morwellt a lansiwyd yn 2019, a anelai at ailblannu miliwn o hadau morwellt dros ddau hectar yng Nghymru.

Canolbwyntiodd Emma McKinley, Y Rhwydwaith Gwyddorau Cymdeithasol Morol, Prifysgol Caerdydd, ar y cysylltiad rhwng y môr a phobl. Dywedodd fod pob un ohonom yn “ddinasyddion y môr” a bod angen gofalu mwy am y môr. Pwysleisiodd fod “llythrennedd morol” yn sail i’r cysylltiad hwn, ac aeth ati i ddiffinio llythrennedd morol fel “deall y dylanwad a gaiff y môr arnoch chi a’r dylanwad a gewch chi ar y môr”, sef rhywbeth sy’n hanfodol er mwyn i gymunedau arfordirol iach allu gweithredu. Ar sail gwybodaeth a ddeilliodd o arolygon, gellir gweld bod pobl yn pryderu am amgylchedd y môr, a phwysleisiodd McKinley fod hyn yn fan cychwyn da y dylid adeiladu arno.

Cyflwynodd Paul Buckley, Partneriaeth Effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd ar y Môr (MCCIP), brif swyddogaeth y Bartneriaeth, sef gweithio gyda llu o bartneriaid ac ymhél ag amrywiaeth eang o fuddiannau. Tanlinellodd Buckley fod y Bartneriaeth yn anrhydeddu annibyniaeth ac uniondeb gwyddonol trwy sicrhau ei bod yn gweithredu ac yn cyflwyno tystiolaeth heb ragfarn. Nododd fod gwiriadau a phrosesau cydbwyso ar waith i sicrhau bod y dystiolaeth yn hygyrch i’r cyhoedd. Ar wahân i hyn, nododd Buckley fod y Bartneriaeth yn gallu olrhain yn fanylach nag o’r blaen y newidiadau a’r effeithiau hinsoddol ar ecosystemau sy’n effeithio ar amgylchedd y môr/arfordir.

Cyflwynodd Karen Robinson, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gerdyn Adrodd Effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd ar y Môr 2020. Soniodd Robinson am y dystiolaeth a gasglwyd ganddi hi a’i thîm o ran newidiadau ffisegol yn yr amgylchedd, yn cynnwys cynnydd yn lefel y môr a chynnydd yn nhymheredd cyfartalog y môr. Trafododd yr effeithiau a ddaw i ran bioamrywiaeth a chymdeithas yn sgil y newidiadau ffisegol hyn yn yr amgylchedd. Nododd Robinson y camau a gymerwyd hyd yn hyn, a phwysleisiodd yr angen i barhau i weithredu er mwyn lliniaru’r effeithiau niweidiol ar amgylchedd y môr.

 

Pŵer atebion seiliedig ar natur - elfen gadarnhaol i bobl, hinsawdd a bywyd gwyllt Cymru

Trefnwyd y sesiwn hon gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Cafodd y sesiwn hon ei chymedroli gan Mark McKenna, Down to Earth. Yn ystod y sesiwn soniwyd am yr atebion seiliedig ar natur a roddir ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru, yn cynnwys y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.

Pwysleisiodd Pete Jones, Cyfoeth Naturiol Cymru, fod angen inni warchod ac adfer mawndiroedd er mwyn cynyddu amrywiaeth y manteision ecosystem a ddaw i’n rhan. Mae mawndiroedd a addaswyd i’r graddau lleiaf yng Nghymru heddiw yn gweithio fel dalfeydd carbon gan eu bod yn amsugno mwy o garbon nag a ryddheir ganddynt. Dywedodd Jones fod Cymru yn gefnogol i’r mater, a soniodd am bolisïau a gynhwysir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n ymwneud â “rheoli ac adfer mawndiroedd mewn modd ffafriol”. Cyflwynodd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar gyfer 2020-2025, sy’n anelu at warchod mawndiroedd. Caiff y rhaglen hon ei chynnwys yn Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2.

Dangosodd Clive Walmsley, Cyfoeth Naturiol Cymru, fideo byr yn cyflwyno astudiaeth achos yn ymwneud â system ddraenio gynaliadwy. Aeth Walmsley ati’n fyr i gyflwyno atebion seiliedig ar natur a nododd cymaint o amlygrwydd a roddwyd i’r syniad yn nhrafodaethau’r Gynhadledd Newid Hinsawdd yn Glasgow. Nododd y camau â blaenoriaeth ar gyfer Natur Bositif y DU ar y cyd â menter ‘Natur Bositif 2030’. Drwy gydol ei gyflwyniad, tynnodd sylw at y ffaith y gellid rhoi atebion seiliedig ar natur ar waith yn eang yng Nghymru, ac y gallent helpu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ac amsugno carbon.

Cyflwynodd Alison Smith, Y Sefydliad Newid Amgylcheddol, adroddiad a luniwyd ganddi ar y cyd ag Alexandre Chausson yn ymwneud ag atebion seiliedig ar natur a gynhwysir ym mholisïau’r DU ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd, a llwyddiant yr atebion hyn o ran mynd i’r afael â risgiau’r hinsawdd. Ymhellach, cyflwynodd Smith nifer o argymhellion i annog defnydd ehangach o atebion seiliedig ar natur, yn cynnwys polisïau cydlynol a roddir ar waith ar draws pob sector, gosod safonau, a phlannu coed.

 

Meysydd uchelgeisiau - ffermio wrth galon defnydd tir cynaliadwy ar gyfer y dyfodol

Trefnwyd y sesiwn hon gan Undeb Amaethwyr Cymru, Hybu Cig Cymru, y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr - NFU Cymru

Yn ystod y sesiwn hon aethpwyd ati i gnoi cil ar wahanol ffyrdd o gyflawni sero-net tra’n cyfoethogi bioamrywiaeth ar yr un pryd, ynghyd â myfyrio ar y manteision naturiol sy’n perthyn i amaethyddiaeth Cymru o ran bod yn arweinydd byd-eang wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Tynnodd Catherine Smith, Cadeirydd HCC, sylw at y ffaith fod gan Gymru dirwedd berffaith ar gyfer da byw, ac mai Cymru oedd y lle mwyaf addas yn Ewrop ar gyfer glaswelltiroedd. Wrth ganmol systemau ffermio teuluol nad oeddynt yn systemau dwys, soniodd am gael gwared â’r ddibyniaeth ar borthiant a gaiff ei fewnforio, sef rhywbeth a allai gyfrannu at ddatgoedwigo. Soniodd Smith am waith ymchwil a gynhaliwyd ar ffermio teuluol, lle dangoswyd y gallai anniogelwch bwyd byd-eang gynyddu pe bai tir yn cael ei dynnu allan o’r broses cynhyrchu bwyd. Galwodd am gael gwahanol ffyrdd o leihau allyriadau a sicrhau bod modd i Gymru ddod yn arweinydd cynaliadwyedd a gydnabyddir yn fyd-eang.

Dywedodd Aled Jones, NFU Cymru, fod amaethyddiaeth yn gyfrifol am 12% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, ac y bydd yn ofynnol gweld lleihad mawr yn y sector hwn. Mae Jones o blaid cadw at bolisi canolog a fydd yn diogelu’r arfer o gynhyrchu bwyd diogel a fforddiadwy. Dywedodd fod yn rhaid i gymunedau gwledig gael blaenoriaeth wrth benderfynu ar bolisïau, ac y dylai ffermwyr gael cefnogaeth. Tynnodd sylw at y modd y mae ffermwyr wedi cyfrannu eisoes at ddal a storio carbon trwy blannu gwrychoedd, a phwysleisiodd fod ffermwyr wedi addo mesur y carbon ar eu ffermydd a sicrhau bod eu ffermydd mor effeithlon â phosibl.

Tanlinellodd Ian Rickman, FUW, y rôl sydd gan ddulliau cynhyrchu effeithlon o ran helpu i gyflawni targedau sero-net. Awgrymodd y dylai ffermwyr ddefnyddio offer i bennu eu hôl troed carbon er mwyn dadansoddi allyriadau, ac yna gellid defnyddio’r canlyniad fel meincnod. Hefyd, pwysleisiodd Rickman y dylid trin ffermwyr fel rhan o’r ateb, a thynnodd sylw at y ffaith y gall gwybodaeth ac arbenigedd ffermwyr yn y maes rheoli tir gyfrannu’n fawr at ddiogelu bioamrywiaeth.

Canolbwyntiodd Phil Stocker, NSA, ar rôl y diwydiant da byw o ran adfer yr amgylchedd. Nododd Stocker y manteision sy’n perthyn i bori a’r effeithiau a ddaw yn sgil tanbori. Tynnodd sylw hefyd at y manteision sy’n perthyn i ffermio defaid, a dywedodd nad yw gallu gwlân i storio carbon yn cael i werthfawrogi’n ddigonol. Nid oedd Stocker yn siŵr a fyddai gwrthbwyso credydau carbon yn effeithiol o ran lleihau ôl troed carbon y diwydiant nac ychwaith o ran ymdrin â’r materion amgylcheddol presennol.

 

Cenedl fach, syniadau mawr - sut y mae gwyddoniaeth yng Nghymru yn gweithio gyda natur i fynd i’r afael â newid hinsawdd

Trefnwyd y sesiwn hon gan y Rhwydwaith Ymchwil i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd - LCEERN

Yr Athro Mary Gagen, Prifysgol Abertawe, a fu’n cymedroli’r sesiwn hon. Trafodwyd pa mor bwysig yw gwarchod ac adfer natur er mwyn cyrraedd y targed sero-net. Hefyd, aethpwyd ati i fyfyrio ar y gwaith ymchwil a gynhaliwyd ledled Cymru yn ymwneud ag atebion seiliedig ar natur.

Tynnodd yr Athro Bridget Emmett, Gorsaf Ymchwil Cymru Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, sylw at y ffaith ein bod angen pridd a mawndiroedd er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, gan fod y storfeydd carbon hyn yn dal ac yn storio teirgwaith cymaint o garbon â llystyfiant. Dywedodd fod yr arfer o gamreoli pridd a mawndiroedd wedi arwain at gynnydd o 4.2% yn y carbon a geir yn yr atmosffer. Fodd bynnag, tynnodd Emmett sylw at yr heriau o ran cyrraedd y targed sero-net gan ein bod “yn rhedeg yn ein hunfan”. Yn ôl Emmett, rydym angen data cadarn i olrhain canlyniadau polisïau fel y gellir deall yn well yr hyn sydd angen ei wneud.

Pwysleisiodd Dr. Prysor Williams, Prifysgol Bangor, y gallai tyfu coed mewn mannau strategol o fewn y tirlun a ffermir arwain at amryfal fanteision. Dywedodd y gellir defnyddio dull “y coed iawn yn y lle iawn” i helpu i leihau llifogydd, darparu lloches i dda byw ac esgor ar fanteision amaethyddol. O ran defnyddio gwyndynnydd amlrywogaeth mewn cylchdroeon âr, dywedodd y gallai ailgyflwyno da byw fod o fudd i gylchdro maetholion pridd, i gynefinoedd ac i garbon organig pridd. Trafododd gyfundrefnau pori wedi’u haddasu, lle canolbwyntiodd ar dreialu systemau pori gwahanol er mwyn gwella’r addasrwydd yn gyffredinol.

Yn ôl yr Athro Isabelle Durance, Prifysgol Caerdydd, mae dŵr croyw yn her gymhleth y dylid mynd i’r afael â hi ar frys. Trafododd pa mor bwysig yw sicrhau dŵr er budd llesiant pobl yn ogystal â chynnal y cyfalaf naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng nghanol newidiadau cymdeithasol a naturiol ansicr. Tynnodd sylw at yr angen i wella ansawdd, swm a chydnerthedd llifoedd gwasanaeth dŵr croyw. Pwysleisiodd Durance pa mor bwysig yw hi i bawb weithio gyda’i gilydd ar draws pob sector i wireddu nod cyffredin, er enghraifft hyfforddi cenedlaethau’r dyfodol, asesu’r costau a’r manteision sy’n perthyn i offer seiliedig ar natur, a gweithio gyda natur.

Tynnodd yr Athro Iain Donnison, Prifysgol Aberystwyth, sylw at yr her sy’n perthyn i ddefnyddio atebion seiliedig ar natur tra’n profi digwyddiadau tywydd eithafol. Nid oedd o blaid defnyddio gwrteithiau anorganig na mewnforio pridd i’r DU. Ystyriodd Donnison yr arfer o ddefnyddio biomas yn lle tanwyddau ffosil. Awgrymodd y dylid plannu rhagor o gnydau oherwydd eu gallu i esgor ar bwysau cnwd da gyda mewnbynnau isel iawn.

Archwiliodd Dr Richard Unsworth, Prifysgol Abertawe, y rhyfeddodau sy’n perthyn i forwellt o ran rheoleiddio amgylchedd y môr. Dywedodd mai morwellt yw “archarwr” y môr, ond dywedodd hefyd fod ansawdd gwael y dŵr wedi cael gwared â’r organebau hyn o’r môr dros amser. Tynnodd Unsworth sylw at brosiect i adfer morwellt a rhannodd y ddealltwriaeth a’r gwersi a ddysgwyd yn sgil y gwaith adfer.

 

Gweithio gyda gwlyptiroedd - rhan bwysig o ateb byd natur

Trefnwyd y sesiwn hon gan Dŵr Cymru

Bu’r sesiwn hon yn trafod pwysigrwydd amgylcheddau a chynefinoedd lleol mewn perthynas â newid hinsawdd, a sut y dylid eu diogelu a’u cyfoethogi.

Trafododd Tony Harrington, Dŵr Cymru Welsh Water, strategaeth garbon DCWW, sy’n anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2040 ac sydd hefyd yn anelu at sicrhau lleihad o 90% mewn allyriadau erbyn 2030. Tynnodd Harrington sylw at ffrydiau gwaith eraill yn ymwneud â’r strategaeth garbon mewn perthynas â defnyddio trydan, tanwydd ffosil sy’n gysylltiedig â systemau gwresogi, trafnidiaeth, trin dŵr gwastraff, rhaglenni buddsoddi, a thir i gyfoethogi bioamrywiaeth. Awgrymodd fod defnyddio’r egwyddorion strategol hyn a chydweithio gyda thrydydd partïon yn hanfodol er mwyn esgor ar ganlyniadau hirdymor.

Aeth Vyvyan Evans, Dŵr Cymru Welsh Water, ati i bwysleisio pa mor bwysig yw atebion seiliedig ar natur o ran mynd i’r afael â phroblemau fel lleihau carbon a gwella systemau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru. Soniodd am y modd yr halogwyd dyfrffyrdd yn sgil llygredd diwydiannol ac offer ar gyfer y cartref/offer masnachol, a’r modd y mae cynnydd yn nhymheredd afonydd yn cyfrannu at nitreiddio’r dŵr. Yn hytrach nag adeiladu opsiynau ar gyfer problemau dŵr carthion, dywedodd y bydd mesurau seiliedig ar natur yn helpu i wella ansawdd y dŵr a diogelu’r amgylchedd. Cyfeiriodd at gyfraniad Dŵr Cymru mewn prosiectau yn y dyfodol i reoleiddio, ariannu ac adeiladu mesurau cynaliadwy.

 

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lleihau ein hôl troed amgylcheddol dramor

Pwysleisiodd y sesiwn hon sut y mae’r dasg o ymdrin â newid hinsawdd yn golygu lleihau effeithiau amgylcheddol Cymru ar lefel genedlaethol a byd-eang.

Pwysleisiodd Barbara Davies Quy, Maint Cymru, fod cyfradd ddatgoedwigo’r byd yn rhy uchel a bod angen gwarchod coedwigoedd gan eu bod yn diogelu bioamrywiaeth, yn rheoleiddio’r aer ac yn atal llifogydd, a hefyd gan eu bod yn bwysig i lesiant Pobloedd Frodorol. Pwysleisiodd Quy fod angen inni fynd i’r afael â datgoedwigo trwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar bobl, gan roi ystyriaeth arbennig i Bobloedd Frodorol sy’n wynebu’r posibilrwydd y bydd eu cartrefi’n cael eu dinistrio. Soniodd am yr ymgyrchu o blaid sicrhau y bydd Cymru yn wlad heb ddatgoedwigo, oherwydd caiff datgoedwigo ei ysgogi gan y broses o gynhyrchu’r nwyddau a brynwn ac a ddefnyddiwn bob dydd yng Nghymru. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth, gweithio gydag ysgolion a busnesau, a chynnig llwyfan ar gyfer pobl frodorol.

Tynnodd Shea Buckland-Jones, WWF Cymru, sylw at y ffaith fod WWF Cymru, am y tro cyntaf, wedi cyflwyno data’n ymwneud â’r nwyddau a fewnforiwn i Gymru a’r effaith a gânt dramor. Pwysleisiodd faint o dir sydd ei angen i dyfu’r nwyddau hyn, a dywedodd fod y tiroedd hyn wedi’u lleoli ar y cyfan mewn gwledydd sy’n wynebu risg uchel o ran datgoedwigo. Cyfeiriodd Buckland-Jones at argymhellion WWF Cymru ar gyfer rhoi diwedd ar fewnforio nwyddau a gynhyrchwyd mewn modd anfoesegol, yn cynnwys mynnu na ddylai cadwyni cyflenwi fod yn gysylltiedig â datgoedwigo, a rhoi diwedd ar yr arfer o newid defnydd tir a cham-fanteisio cymdeithasol - elfennau a fydd yn arwain at leihau’n fawr yr effaith ar y gwledydd hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf. Cyfeiriodd hefyd at rôl y cyhoedd, o sefydliadau ariannol i ddinasyddion, a dywedodd eu bod yn cael effaith fawr.

Yn ôl Rhys Evans, Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Cymru, mae cyfraniad y sector bwyd a’r sector ffermio at Newid Hinsawdd yn her y dylid delio â hi ar frys. Soniodd am argymhellion i gynorthwyo ffermwyr trwy gyflwyno cynlluniau teuluol cynaliadwy, dulliau ffermio sy’n gydnaws â’r amgylchedd, taliadau i ffermwyr, cynlluniau grant cyfalaf, a chreu ymwybyddiaeth ymhlith y boblogaeth, sy’n taro tant â’r dull uchafswm allbwn cynaliadwy. Yna, siaradodd am y consensws yng Nghymru ynglŷn â ‘Bil Bwyd’ a’i arwyddocâd, sef bil a fyddai’n ymdrin â phob elfen yn ymwneud â bwydo’r boblogaeth. Roedd o’r farn y byddai dull gwleidyddol ac ymdrechion cymunedol ar raddfa fawr yn helpu i wireddu gweledigaeth gyffredin.

Soniodd Sarah Prince Robin, Gweinyddiaeth Pontio Ecolegol Ffrainc, am yr effaith a gafodd Strategaeth Genedlaethol Ffrainc (a fabwysiadwyd yn 2018) ar ddileu ‘datgoedwigo wedi’i fewnforio’. Yn ddiweddarach, bu’n trafod y llwyddiant o ran cyfreithloni’r strategaeth hon ar ffurf cyfraith Hinsawdd a Chydnerthedd ym mis Awst 2021. Trafododd yr arweiniad ar ddileu ‘datgoedwigo wedi’i fewnforio’, sy’n argymell y dylid osgoi unrhyw gaffael cyhoeddus lle mae’r risg o ran datgoedwigo yn uchel, defnyddio data tollau i wella’r broses olrhain, y ddyletswydd gofal i fusnesau, a’r nod o sicrhau ‘dim datgoedwigo wedi’i fewnforio’ ar gyfer cynhyrchion a brynir gan Ffrainc. Daeth i’r casgliad y bydd y cynnig ar gyfer rheoliad gan yr UE yn esgor ar effaith, a dywedodd fod Ffrainc yn fwy na bodlon i rannu ei harferion gyda gwledydd eraill.

BWLETIN DYDDIOL WYTHNOS HINSAWDD CYMRU – Diwrnod 5 (26 Tachwedd 2021) - Pobl a gweithredu dros yr hinsawdd

Sut mae penderfyniadau unigol yn effeithio ar hinsawdd y byd

Lleisiau o lawr gwlad - Cymunedau’n gweithredu ar newid hinsawdd: galluogwyr a rhwystrau (dan ofal Renew Wales)

Mike Corcoran, o Co-production Network for Wales, oedd yn cymedroli’r sesiwn a ganolbwyntiodd ar swyddogaeth weithredol y gymuned ar lawr gwlad wrth ddelio â’r argyfwng hinsawdd drwy wrando ar enghreifftiau llwyddiannus o fentrau uniongyrchol ledled Cymru.

Trafododd Neville Evans, Bryngwran Cymunedol, y fenter gymdeithasol nid er elw yn Nhafarn yr Iorwerth, sef tafarn a redir gan y gymuned yng nghefn gwlad Ynys Môn. Dywedodd fod system wresogi newydd, sef system pwmp gwres o ffynhonnell aer gyda phaneli solar, wedi ei gosod yn ystod y pandemig, yn sgil cymorth grant wrth i’r dafarn weithredu fel menter gymdeithasol a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol. Roedd Evans yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda gwelliannau pellach megis tirlunio amgylcheddol a cherbyd trydan i alluogi gwaith allgymorth, fel danfoniadau bwyd.

Bu i Beth Ward, Drosi Bikes, amlnellu ymdrechion i ddelio â’r diffyg amrywiaeth mewn beicio gan amlygu pwysigrwydd newidiadau systematig a gefnogir gan lywodraeth ac awdurdodau lleol ar gyfer newidiadau ar lefel leol. Amlinellodd eu dull o arddangos beth yw buddion beicio, darparu gwasanaeth llogi beiciau trydan am bris rhesymol, gosod peiriant ar feiciau a chynnal gweithdai hygyrch i helpu gyda chynnal a gofalu am feiciau. Mewn ymateb i’r prinder swyddi cyflogedig yn y sector gwyrdd, cododd Beth yr angen am fuddsoddiad pellach a gefnogir gan y llywodraeth yn dilyn newid yn yr ymagwedd tuag at fusnes yng Nghymru.

Trafododd Teresa Walters, Tir Coed, sut y gall newid hinsawdd waethygu tlodi a phroblemau iechyd. Pwysleisiodd swyddogaeth faint a ddefnyddir, ond tynnodd sylw hefyd at yr angen i gefnogi grwpiau difreintiedig sy’n profi anhawster wrth ddefnyddio yn fwy gwyrdd, megis prynu beiciau trydan. Tynnodd sylw at y broblem o roi prosiectau newydd ar waith, gan gynnwys yr amser, polisïau, cyllid a rheolaeth sydd eu hangen i sicrhau llwyddiant. Pwysleisiodd bwysigrwydd gwell ymwybyddiaeth ymysg cymunedau o’r amgylchedd naturiol a gwytnwch.

Pwysleisiodd Jeremy Wadia, EcoDewi, broblemau cyswllt rhyngrwyd mewn ardaloedd gwledig o’i gymharu ag ardaloedd trefol. Rhoddodd sylw i bwysigrwydd cydweithredu, gan gynnwys cymryd rhan mewn mentrau ac ymuno â grwpiau cymunedol. Amlygodd fod cyllid yn her wrth geisio cychwyn prosiectau newydd, ond nododd fod yna gyfleoedd i ariannu prosiectau llai. Galwodd ar y mynychwyr i fynd amdani, cymryd y cam cyntaf, ymgynnull grwpiau bach a chydweithio â grwpiau o’r un anian.

 

Codi’r llen neu ddiwedd y sioe: mae’r argyfwng hinsawdd yn newid y sefyllfa’n llwyr ar gyfer gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau. (dan ofal Celfyddydau Rhyngwladol Cymru)

Bu i’r sesiwn hon ganolbwyntio ar ail-feddwl y celfyddydau a’r man canolog o ran gwaith rhyngwladol a theithio, tra’n archwilio hefyd sut all y celfyddydau helpu i gyfrannu at weithredu ar yr hinsawdd. Bu i Alison Woods, NoFit State Circus, atgofio ei phrofiadau gyda’r cydweithrediad ‘Drum Up a Circus’. Trafododd Alison yr adeg pan na allai NoFit State deithio i Zambia yn 2020, gan arwain at newid yn ffocws y cwmni. Hyd at hynny, deuai 70% o incwm y cwmni o deithiau rhyngwladol. Nawr, dywedodd bod eu hymagwedd tuag at waith rhyngwladol yn y celfyddydau yn canolbwyntio fwy ar ddull lleol/byd eang mwy cytbwys.

Pwysleisiodd Anna Walsh, Theatre Forum Ireland (TFI), sut mae delio â newid hinsawdd yn gofyn i ni oll newid ein hagweddau a’n hymddygiadau yn unigol ac ar y cyd. Mae hi’n credu y gall celf chwarae rhan sylweddol wrth symud y tu hwnt i’r pryderon a’r teimladau o anobaith a gynhyrchir gan yr argyfwng hinsawdd, er mwyn canfod ffyrdd newydd o weithio a byw. Wrth bwysleisio gwerth celf wrth berswadio llunwyr polisi a chyllidwyr, dywed y gall hyn fod yn esiampl o’r ffordd ymlaen gyda phrofiadau diwylliannol a rennir.

Dangosodd Ben Twist, Creative Carbon Scotland, bwysigrwydd y diwylliant o ddelio â newid hinsawdd, gan egluro diwylliant fel modd cydweithredol gan ffrydio gwahanol syniadau i greu cyfleoedd i arloesi. Dywedodd, yn dilyn COVID, gelir defnyddio diwylliant fel map ffordd i leihau effaith newid hinsawdd, gan amlygu pwysigrwydd pobl ifanc. Nododd fod yr hen fodel o artistiaid yn teithio angen ei addasu efallai er mwyn dod yn fwy cynaliadwy. Yn olaf, pwysleisiodd bwysigrwydd diwylliant mewn cymunedau llai o faint a sut all lleoliaeth a chydweithio helpu i ddelio â materion yn ymwneud â’r hinsawdd.

Disgrifiodd Gift Chansa, Circus Zambia, sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar y diwydiant ffilm, gan ddweud y bydd symudiad tuag at gynyrchiadau digidol. Amlygodd y gwahanol effeithiau o newid hinsawdd a brofwyd yn Zambia gan annog ymagwedd holistaidd tuag at newid hinsawdd sy’n ymgysylltu â phobl ifanc ac yn lledaenu ymwybyddiaeth drwy bentrefi a chymunedau llai o faint. Awgrymodd yr angen i ddechrau ar lefel bersonol a gwneud penderfyniadau pwrpasol i leihau defnydd.

 

Sut all y celfyddydau creadigol ddylanwadu ar newid mewn ymddygiad

Beirniadodd Owen Sheers, Dramodydd a Bardd, fethiant llywodraethau blaenorol i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol. Soniodd am y gwahanol ffyrdd y gellir ymdrin â newid hinsawdd drwy adrodd straeon sy’n medru creu dychmygaeth o ffyrdd newydd o fyw. Pwysleisiodd yr angen am gynnydd a lleihau twf, gan ganolbwyntio ar lesiant pobl yn hytrach na GDP. Galwodd am ragor o drafod yn y prif gyfryngau am faterion yn ymwneud â’r hinsawdd er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd. Soniodd hefyd am yr angen i gael dogfennaeth wirioneddol ar ffurf hybrid drwy gyfweliadau a phrofiadau byw, i ddangos effaith cynnydd o ddwy radd yn nhymheredd y byd.

Nododd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol dros Gymru, fod y Cenhedloedd Unedig yn ategu dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a fyddai’n ‘trwytho i lawr’. Yn ogystal, pwysleisiodd bwysigrwydd deialog cadarnhaol i ddelio â gwastraff bwyd a thlodi, gan dynnu sylw at yr effeithiau anghytbwys a deimlir gan y rhai yn Ne’r Blaned. Gan edrych ymlaen, amlygodd Howe yr angen i gefnogi’r rhai sydd dan anfantais yn gymdeithasol gyda mwy o fuddsoddiad mewn cynlluniau gwaith sy’n uno elfennau ac yn creu cyfleoedd newydd.

Soniodd Amika George. Sylfaenydd Ymgyrch Free Periods ac awdur “Make It Happen - How To Be An Activist” am ei hymgyrchoedd gwleidyddol a’r broblem o dlodi mislif yn y DU. Amlinellodd Amika ei hymgyrchoedd ynghylch hyn a defnyddio hyn fel enghraifft i ddangos y cyfle sydd gennym oll fel dinasyddion i wneud newidiadau ac i ddylanwadu ar lywodraeth a pholisi. Pwysleisiodd nad yw hi’n wir mai dim ond y llywodraeth a gwleidyddion all ddylanwadu ar faterion yn ymwneud â’r hinsawdd. I Amika mae newid hinsawdd angen cydweithrediad rhwng bob cenhedlaeth. Amlinellodd Amika bwysigrwydd gwrando ar bobl ifanc a’u dyfodol, gan bwysleisio swyddogaeth bwysig y cyfryngau wrth addysgu a dylanwadu ar y gwaith o ddelio â newid hinsawdd.

 

Newid Hinsawdd: argyfwng iechyd cyhoeddus

Bu i’r sesiwn hon archwilio effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus, ac yn bwysicach, sut all ymyriadau iechyd cyhoeddus helpu i gefnogi’r rhai mwyaf bregus o ran newid hinsawdd ac iechyd gwael.

Canolbwyntiodd Dr. Tom Porter, Ymgynghorydd, Iechyd Cyhoeddus, ar y diwydiant trafnidiaeth gyda sgil effeithiau hynny ar yr amgylchedd ac iechyd, gan gynnwys llygredd aer, damweiniau a llesiant. Amlygodd effeithiau’r clo mawr yng Nghaerdydd ac effaith hynny ar leihad mewn teithio. Pwysleisiodd y gwaith o greu siarteri teithio yng Nghaerdydd, y Fro a Gwent, i wella ansawdd yr aer, gyda rhagor na 50 o sefydliadau wedi arwyddo mewn cefnogaeth.

Dywedodd Dr. Sarah Jones, Ymgynghorydd, Diogelwch Iechyd Amgylcheddol, fod newid hinsawdd yn effeithio ar bawb ac yn fygythiad i iechyd cyhoeddus. Amlygodd bod gweithredu yn erbyn newid hinsawdd angen newidiadau pwrpasol a all ddiogelu’r amgylchedd ac iechyd cyhoeddus, wrth ymdrin â chydraddoldebau ac atal anghydroddoldebau o ran oed, amddifadedd rhywedd ac ethnigrwydd. Rhoddodd yr enghraifft o ostwng cyflymder gyrru, sy’n lleihau allyriadau. Cyflwynodd hefyd fesurau gwyliadwriaeth ar gyfer afiechydon cyfathrebiadol fel ffordd o ddiogelu iechyd cyhoeddus.

Amlygodd Kristian James, Prif Arbenigwr Iechyd Amgylcheddol, effaith fyd-eang tywydd eithafol, gan bwysleisio’r effeithiau ar iechyd pobl hen ac ifanc. Rhoddodd yr enghraifft o broblemau anadlol sy’n effeithio’n anghymesurol ar y rhai o ardaloedd difreintiedig sydd eisoes yn fregus o ran llygredd. Ymhellach, adroddodd fod llifogydd yn cael effeithiau negyddol ar iechyd pobl a’u ffordd o fyw, sy’n arwain at yr angen am amddiffynfeydd o sawl math i ymdrin â thywydd eithafol.

Eglurodd Aled Hughes, Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Betsi Cadwaladr, arwyddocâd pentref Fairbourne gyda’r 700 o drigolion parhaol yn wynebu effeithiau uniongyrchol newid hinsawdd. Amlygodd mai llifogydd yw’r perygl mwyaf i drigolion, sydd wedi golygu buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith amddiffyn. Amlygodd Hughes yr angen am weithredu ar y cyd gyda’r gymuned i ddatblygu cynlluniau cynaliadwy a gwirioneddol o fewn yr amserlenni priodol.

Disgrifiodd Dafydd Gwynne, Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Betsi Cadwaladr, y cynllun amlasiantaeth a roddwyd ar waith, i ddelio ag effeithiau Fairbourne. Rhoddodd sylw yn neilltuol i’r effeithiau ar ein hiechyd a sut mae hyn yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Pwysleisiodd fod angen ystyried yr effeithiau gwahanol hyn wrth ddelio â materion yn ymwneud â newid hinsawdd. Ymhellach, amlygodd Gwynne sut mae effeithiau newid hinsawdd yn cael eu teimlo’n anghymesurol drwy’r gymuned yn seiliedig ar gefndiroedd economaidd-gymdeithasol, gan alw am gynlluniau gweithredu i adlewyrchu hynny.

 

Newid Hinsawdd: Y celfyddydau a’r gwyddorau o weddnewidiadau cymdeithasol

Rhoddodd y sesiwn hon ystyriaeth i sut i ysgogi newid ymddygiadol ar draws amryw o ddiwydiannau. Cymerodd safbwynt holistaidd gan ofyn a yw, er gwaethaf ein dealltwriaeth wyddonol o newid ymddygiadol, yn fwy o gelfyddyd mewn gwirionedd.

Pwysleisiodd Dr Ruth Stevenson, sy’n Raddedig o Ysgol Amgylchedd y Ganolfan Dechnoleg Amgen, yr angen am leihad mewn carbon ar draws pob sector. Awgrymodd y gallai newid ymddygiadol arwain at ostyngiadau sylweddol ar draws sectorau, gan amlygu defnyddio llai o ynni, newid deiet, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, prynu cerbydau trydan a throi at ynni adnewyddadwy. Nododd fod patrymau seilwaith, fel lonydd beicio a chynhyrchu bwyd, yn chwarae rhan bwrpasol sy’n llunio ymddygiad unigolyn.

Amlinellodd Simon Lowthe-Thomas, Asiantaeth Ynni Hafren a’r Gwy, waith i ddelio â thlodi mewn pontio ynni drwy brosiectau cymunedol, sy’n rhoi cyngor ar ynni a mesurau effeithlonrwydd gyda rhaglenni cynhesrwydd fforddiadwy domestig. Amlygodd Lowthe-Thomas bwysigrwydd cael system wresogi effeithiol, nid yn unig yng nghyd-destun lleihau allyriadau ond wrth drechu tlodi tanwydd a delio â phryderon iechyd. Dangosodd bwysigrwydd gweithio’n gydweithredol gyda chymdeithasau tai a sefydliadau gofal iechyd i addysgu pobl ynghylch effeithlonrwydd ynni a chodi ymwybyddiaeth mewn swyddi.

Dywedodd yr Athro Lorraine Whitmarsh o Brifysgol Caerfaddon fod lliniaru yn gofyn am sawl rôl gan gynnwys dinasyddion, rhieni a chymunedau. Soniodd am y ffactorau sy’n gyrru newid ymddygiadol megis diwylliant ac ymyriadau dyluniol. Amlygodd y materion dilynol sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddylanwadau unigol ar agweddau ac ymddygiadau, a’r materion deilliannol, megis mesurau economaidd a nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael. Pwysleisiodd yr angen am ymyriadau lluosog a’r adeg iawn o wneud hynny, gan ddweud fod polisïau yn amharu ar arferion pobl neu ymatebion i newid hinsawdd.

Amlinellodd Dr Clive Walmsley, sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal amryw o adnoddau naturiol sy’n cynnwys tir, ardaloedd morol gwarchodedig, coedwigoedd a thirluniau. Pwysleisiodd y gwaith a waned ers 2019 sydd wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddatrysiadau technolegol fel cerbydau trydan ac ynni adnewyddadwy. O safbwynt newid ymddygiadol sefydliadol, amlinellodd bersbectif sefydliadol sy’n canolbwyntio ar leihau ôl-troed carbon a chynnwys gyrru-eco a gwella effeithlonrwydd tanwydd. Mynnodd bwysigrwydd cyfranogiad cydweithredol a rhaglenni hyfforddiant ar gyfer datblygu cynaliadwy er mwyn delio â newid hinsawdd mewn modd strategol.